Cynhadledd Ryngwladol IEEE ar Beirianneg Cyfrifiadura, Electroneg a Chyfathrebu 2023
11.05.2023
Bydd PCYDDS yn cynnal 6ed Cynhadledd Ryngwladol IEEE ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu yn Adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe ar Awst 14 i 16.
Bydd y gynhadledd yn tynnu ynghyd ymchwilwyr a datblygwyr o'r byd academaidd a diwydiant. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau o brif anerchiadau, sesiynau technegol a phoster, gweithdai, a thiwtorialau. Ategir y sesiynau ffurfiol gan raglen gymdeithasol ragorol.
Bydd deuddydd cyntaf y gynhadledd yn dilyn rhaglen academaidd IEEE a bydd y trydydd diwrnod yn cynnwys “Fforwm ôl-raddedig a Diwydiannol” i ddiwydiannau ac ymchwilwyr ifanc drafod a rhannu syniadau ar lwybrau cyfochrog.
Hoffem wahodd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil i gyflwyno poster, crynodeb, crynodeb estynedig, papur ar waith neu bapur wedi’i gwblhau i’w gynnwys yn y Fforwm Ôl-raddedig ar 16eg Awst.
Gall myfyrwyr Ôl-raddedig gyflwyno i: http://www.iccece23.theiaer.org/postgraduateforum.html
Gall diwydiannau/cwmnïau gyflwyno i:
http://www.iccece23.theiaer.org/industrialtrack.html
Dywedodd Dr Carlene Campbell: "Bydd hwn yn gyfle gwych i rwydweithio a thrafod ymchwil a chydweithrediadau diwydiannol sy’n digwydd ar draws Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf y Brifysgol (WISA) ar hyn o bryd â chynrychiolwyr a phrif siaradwyr blaenllaw a fydd yn cyrraedd Abertawe ar gyfer y gynhadledd hon."
Ceir manylion llawn yn www.iccece23.theiaer.org
Unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at:
universitywalesconferenceplanning@uwtsd.ac.uk
neu cysylltwch â
Dr Carlene Campbell carlene.campbell@uwtsd.ac.uk
Dr Terry Walcott t.walcott@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071