Cystadleuaeth Lletygarwch flaenllaw yn dychwelyd i Gymru


25.07.2023

Bydd cystadleuaeth Lletygarwch flaenllaw i gogyddion a gweinyddion ifanc yn dychwelyd i Gymru ym mis Medi i ddarganfod doniau gorau’r wlad.  

Young Chef Young Waiter 2022 Wales Regional Competition, Kevin Blanco cooking, plating up at the pass

Mae’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter (YCYW) yn agored i gogyddion a gweinyddion o unrhyw sefydliad Lletygarwch sy’n 28 oed neu’n iau* ac sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.  

Bydd rownd ranbarthol Cymru, a gynhelir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, yn darganfod y cogydd ifanc a’r gweinydd ifanc gorau yng Nghymru, a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu fel pâr ym mhencampwriaeth y byd a gynhelir ym Monaco yn ystod yr hydref am y cyfle i ennill $10,000.

Cynhelir cystadleuaeth ranbarthol Cymru ar 10 ac 11 Medi ar Gampws y Brifysgol yn SA1 y Glannau ac yn stadiwm Swansea.com yng ngogledd-ddwyrain y ddinas.  Ar y diwrnod cyntaf cynigir gweithdai ac anerchiadau addysgol i’r ymgeiswyr, gyda gweithgarwch y gystadleuaeth yn dilyn, gan orffen mewn cinio a weinir i’r beirniaid ar yr ail ddiwrnod, seremoni wobrwyo a chinio mawreddog gyda’r nos. 

Eleni mae’r gystadleuaeth wedi tynnu sylw gan rai o weithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw maes Lletygarwch, a fydd, yn ogystal â beirniadu, yn cynnig cyngor ac arbenigedd i gystadleuwyr, a gaiff fudd o’r mentora proffesiynol hwn a rhwydwaith newydd o gymheiriaid.

Beirniaid y cogyddion eleni fydd: Hywel Griffiths o’r Beach House, Oxwich; Tom Simmons o Thomas, Pontcanna; James Sommerin o Home, Penarth; Martyn Guest, Prif Gogydd Stadiwm Swansea City; Wayne Barnard o The Burnt Chef Project, gyda rhagor i’w cadarnhau.

Beirniaid categori’r gweinydd hyd yn hyn yw:  Mourad Ben Tekfa, Cyfarwyddwr Tai Bwyta Seren Collection; Christie Hayes, Rheolwr Cyffredinol Beach House; James Hayward o Celtic Collection; Jane Byrd o Compass Cymru; Huw Morgan o Goleg Ceredigion ac Andy Downton, sylfaenydd y Burnt Chocolate Consultancy.

Young Chef Young Waiter Competition 2022 Waiter at table being judged

Mae hwn yn gyfle rhagorol i weithwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru symud eu gyrfaoedd ymlaen ac arddangos eu sgiliau i weithwyr proffesiynol tai bwyta blaenllaw’r wlad.  Y llynedd, aeth enillwyr cystadleuaeth ranbarthol Cymru ymlaen i ennill ym mhencampwriaethau’r byd, ac ers hynny mae’u gyrfaoedd wedi saethu ymlaen yn llwyddiannus.  

Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd y cyrsiau Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth yn y Drindod Dewi Sant, a Chadeirydd Beirniaid YCYW Cymru:  “Rwyf wrth fy modd bod y Drindod Dewi Sant unwaith eto’n dod â’r gystadleuaeth arobryn hon i Gymru, a’n bod ni’n gallu hyrwyddo’r holl ddoniau ifanc gwych yn y maes lletygarwch yng Nghymru, gan roi’r cyfle iddyn nhw gystadlu ar lwyfan y byd.  

“Mae’r beirniaid eleni’n grŵp hynod dalentog o ddylanwadwyr y diwydiant, sydd eisoes yn ysbrydoliaeth i lawer o weithwyr proffesiynol ifanc lletygarwch yng Nghymru. Bydd cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rowndiau rhanbarthol yn derbyn adborth personol gan y beirniaid hyn gydol y diwrnod, sy’n amhrisiadwy ar gyfer eu datblygiad.”

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth blaenllaw yn ogystal â rhoi cartref i gystadleuaeth  World Young Chef Young Waiter. Mae modd dilyn y cyrsiau hyn sydd â ffocws ar y diwydiant ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gydag opsiynau am ddysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell, ac astudio amser llawn neu ran-amser.  

Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn gogydd ifanc neu weinydd ifanc y byd nesaf wneud cais nawr – mae gwneud cais yn rhad ac am ddim, ac yn cau am 23:55pm ar 7 Awst.  

*28 oed ac iau ar 14 Tachwedd 2023

Young Chef Young Waiter Competition 2022 Judges in discussion

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078