Darlithwyr Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn hyfforddi addysgwyr yn Sir Benfro.


31.08.2023

Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Paul Darby a Natasha Jones o Blentyndod, Ieuenctid ac Addysg, wedi cael ychydig ddyddiau gwych yn hyfforddi addysgwyr o Sir Benfro.

The University of Wales Trinity Saint David’s Early Years lecturers Paul Darby and Natasha Jones from Childhood, Youth and Education have had a wonderful few days training educators from Pembrokeshire.

Datblygwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â Gwasanaethau Addysg a Phlant Cyngor Sir Benfro, ac mae’n amlygu’r ffordd y mae’r arbenigedd o fewn disgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg y Drindod Dewi Sant o ran dysgu seiliedig ar chwarae chwilfrydig yn cefnogi datblygiad y Cwricwlwm i Gymru.

Bu’r sesiynau hyfforddi’n archwilio dysgu drwy chwarae a sut y gellir cefnogi meysydd dysgu’r Cwricwlwm i Gymru gydag oedolion sy’n galluogi dysgu ac amgylcheddau atyniadol. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar yr arbenigedd yn y tîm yn gysylltiedig â chwarae, lles, cynhwysiant a dysgu awyr agored a sut y gall y rhain ysgogi ac ysbrydoli plant gan ganiatáu iddynt ffynnu.

Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn ardderchog. Meddai un cyfranogwr:

“Darpariaeth ddifyr. Awyrgylch hamddenol yn caniatáu trafodaethau diddorol a chreadigrwydd.”

Dywedodd un arall:

“Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr. Rwy’n mynd adref yn teimlo’n hyderus i wneud i hyn weithio yn ein lleoliad ni. Llawer o hwyl ac yn ysbrydoledig.”

Ychwanegodd un arall: 

“Rhoddodd y cwrs syniadau ysbrydoledig ar gyfer dysgu dilys mewn profiadau. Fe wnaeth ein caniatáu i fod yn greadigol, yn weithgar ac yn ymarferol drwyddi draw’. 

The University of Wales Trinity Saint David’s Early Years lecturers Paul Darby and Natasha Jones from Childhood, Youth and Education have had a wonderful few days training educators from Pembrokeshire.

Meddai’r darlithydd Paul Darby:

“Cawsom brofiad gwych, yn rhannu gwybodaeth ac yn archwilio gwerth addysgol chwarae i blant ifanc. Roedd y gweithwyr proffesiynol a ddaeth yn llawn diddordeb ac yn chwilfrydig ac awyddus i ddatblygu syniadau o’r gweithdy i’w harfer addysgu.”

Dywedodd y darlithydd Natasha Jones: 

“Rydw i a Paul wedi bod yn edrych ymlaen at y gweithdai hyn ers wythnosau, ac rwy’n credu y gallaf siarad dros y ddau ohonom wrth ddweud eu bod wedi bod y tu hwnt i’r disgwyl. Roeddwn i’n falch iawn, hyd yn oed gyda gwybodaeth a phrofiad o chwarae, fy mod wedi dysgu llawer gan y rhai a gymerodd ran.

“Mae’r grwpiau a oedd yn bresennol wedi ymgymryd â thrafodaeth a gweithgarwch helaeth, gyda phawb yn cymryd rhan. Profiad boddhaus iawn, a phleser cael cyflwyno ein safbwynt ar werth addysgol chwarae. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y caiff cynnwys ein gweithdy ei roi ar waith gan yr ymarferwyr hynod fedrus hyn.”

Mae’r ddau bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda rhagor o addysgwyr yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am gyfleoedd hyfforddi, mae croeso i chi gysylltu: 

Paul Darby : paul.darby@uwtsd.ac.uk

The University of Wales Trinity Saint David’s Early Years lecturers Paul Darby and Natasha Jones from Childhood, Youth and Education have had a wonderful few days training educators from Pembrokeshire.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk