Darlithydd o’r Drindod Dewi Sant yn ymweld â Norwy yn rhan o Raglen Symudedd Taith


29.03.2023

Yn ddiweddar mae darlithydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael cyfle i ymweld â Norwy yn rhan o Raglen Symudedd Taith.

UWTSD Lecturer visits Norway as part of Taith Mobility Programme.

Mae Taith yn rhaglen newydd sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio dros y byd i gyd, gan ganiatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yn ein gwlad ni. Y pwrpas yw creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd o fyw newydd, a dod â gwersi yn ôl i’w rhannu â phobl gartref.

Roedd Dr Brett Aggersberg o’r adran Gwneud Ffilmiau Antur yn ddigon ffodus i dreulio Wythnos Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Volda yn Norwy.

Roedd myfyrwyr o gwrs Gwneud Ffilmiau Antur y Drindod Dewi Sant eisoes wedi cael y cyfle i ymweld â’r brifysgol yn gynharach yn y flwyddyn yn ystod rhaglen gyfnewid ym mis Ionawr trwy Taith. Dewison nhw Norwy oherwydd y dirwedd hardd, bywyd gwyllt a’r cyfleoedd am deithiau cyfnewid diwylliannol. Y modylau a astudiwyd tra roedden nhw yno oedd: Systemau Aml-gamera, Hanes Ffilm a Chynhyrchu Cyfryngau yn yr Awyr Agored.

Meddai:

“Fe wnes i gwrdd â’r myfyrwyr yn ystod wythnos Ryngwladol Coleg Prifysgol Volda. Cynhalion ni stondin yn cynrychioli Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Roedd hyn yn fuddiol i’r holl ymwelwyr am ei bod yn codi ymwybyddiaeth o Gymru, yr iaith Gymraeg a’r Brifysgol, ar gyfer darpar ymgeiswyr astudio dramor.”

UWTSD Lecturer visits Norway as part of Taith Mobility Programme.

Yn ystod ei wythnos yn Norwy, cafodd Brett gyfle i dreulio amser yn cwrdd â staff o Volda a  phrifysgolion eraill ledled y byd. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio a datblygu cysylltiadau newydd ar gyfer y cwricwlwm, a oedd yn cynnwys gwella prosesau hyrwyddo cyfleoedd i astudio dramor, yn benodol  yn Volda, o ran marchnata cyrsiau; ac annog myfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau  yn Volda i astudio yn y Drindod Dewi Sant.

Ychwanega:

“Mae potensial pellach i ddatblygu cysylltiadau o fewn y celfyddydau perfformio a chwaraeon. Os oes gan fyfyrwyr sy’n graddio ddiddordeb mewn sgiliau cynhyrchu cyfryngau, byddaf yn argymell Coleg Prifysgol Volda iddynt i astudio eu cwrs ôl-raddedig yno. Rwy’n bwriadu cynnwys yr opsiwn i astudio dramor mewn rhaglen ôl-raddedig newydd yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin.”

Ar ôl dychwelyd i’r Drindod Dewi Sant, mae Brett bellach yn gweithio ar ddatblygu prosiect cyfryngau creadigol rhwng y ddwy Brifysgol i ddathlu profiad diwylliannol ac amgylcheddol cyfoethog Volda. Caiff hwn ei ddatblygu trwy gais am gyllid Taith eto.

Mae Brett yn annog aelodau eraill o staff a myfyrwyr i wneud yn fawr o gyfleoedd a ddarperir drwy raglen symudedd Taith, ac i ymweld â Volda.

“Mae’n dref fechan a hardd sy’n darparu amgylchedd tawel i wneud ffrindiau a chanolbwyntio ar eich disgyblaeth. Roedd y lletygarwch gan staff Rhyngwladol Coleg Prifysgol Volda yn eithriadol o hael. Darparwyd amrywiaeth o brydau lleol ar ein cyfer amser cinio a gyda’r nos. Er bod yr ymweliad yn un swyddogol, cefais fy ngwneud i deimlo’n gartrefol yn sgil dull tawel ac ystyriol yr holl staff y cwrddais i â nhw.

“Mae gan Goleg Prifysgol Volda arwyddair sef: man na wnewch chi byth ei anghofio. Gallaf gredu’r gosodiad hwnnw nawr gan fy mod yn awyddus i ddychwelyd i ymweld â ffrindiau a chydweithwyr newydd.”

Meddai Kath Griffiths, rheolwr rhanbarthol Rhyngwladol, Gogledd America a symudedd Allanol:

“Mae gan Volda gynifer o gyfleoedd i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant, mae’n lleoliad arbennig ac yn amgylchedd hynod o gefnogol.  Mae’n wych ein bod, trwy Taith, yn gallu cefnogi staff academaidd eto trwy weithgareddau symudedd athrawon. Ymhlith prif fanteision symudedd addysgu mae datblygiad personol, rhwydweithio, a pharatoi ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.”

 

 

UWTSD Lecturer visits Norway as part of Taith Mobility Programme.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk