Darlithydd yn y Drindod Dewi Sant yn graddio â MA i ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr


04.07.2023

Pan fydd y darlithydd o’r Drindod Dewi Sant, Ken Dicks, yn croesi’r llwyfan yn y seremoni raddio heddiw i dderbyn ei radd Meistr mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, bydd yn gam pwysig arall yn ei daith ddysgu bersonol. 

Ken Dicks - Carmarthen Graduation 2023

Ymunodd Ken â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel darlithydd oedd yn cael ei dalu fesul awr ym mis Medi 2016 i addysgu Addysg Gynhwysol, Astudiaethau Cymdeithasol ac Eiriolaeth. Yn sgil ei gefndir yn cefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd, roedd ganddo gyfoeth o brofiad i’w gyflwyno i’w waith addysgu. 

Ychydig a wyddai y byddai hyn hefyd yn ysbrydoli ei lwybr gyrfa ei hun wrth iddo ddychwelyd i ddysgu. 

Meddai: “Er bod symud i addysgu yn Addysg Uwch yn peri ofn ar y dechrau, yn sgil cefnogaeth fy nghydweithwyr a’r adborth gan fyfyrwyr, fe wnes i fagu hyder yn fy rôl.” 

Anogwyd Ken i ddatblygu ei ddealltwriaeth ymhellach o’r materion a wynebir gan unigolion yn y gymdeithas ac, felly, i gyfoethogi ei waith addysgu. Wrth sgwrsio gyda’i gydweithiwr, yr Athro Cysylltiol Caroline Lohmann-Hancock, cafodd ei annog i ddechrau’r MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, fel myfyriwr rhan-amser gan barhau i addysgu’n llawn amser.  

Meddai: “Mae astudio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr eraill sydd wedi ymroi i hyrwyddo tegwch yn y gymdeithas wedi tanio fy mrwdfrydedd ymhellach a, gobeithio, wedi gwella fy ngwaith addysgu drwy ddarparu mewnwelediadau i gynifer o agweddau ar ein cymdeithas gymhleth. Ar ôl pasio’r elfen a addysgir o’r radd Meistr, symudais ymlaen i ymchwilio i’r rôl y gall ymyriadau dan arweiniad cymheiriaid ei chwarae wrth gefnogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ar eu taith drwy addysg uwch. Rwy’n bwriadu defnyddio’r ymchwil hwn wrth gefnogi rhaglenni o’r fath yn y dyfodol. 

Mae Ken wedi gallu defnyddio’r wybodaeth mae wedi’i hennill yn ei waith addysgu ar y graddau BA Eiriolaeth a BA Cymdeithaseg ac mae bellach hefyd yn addysgu ar y rhaglen MA Tegwch ac Amrywiaeth. Mae hefyd yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni BA Eiriolaeth a Chymdeithaseg. 

Ychwanegodd, “cafodd fy nghynnydd tuag at y radd meistr ei arafu gan nifer o ffactorau ond fe wnes i elwa o gefnogaeth fy nghydweithwyr yn y tîm a’r uned Gwasanaethu Myfyrwyr ac rwy’n falch i fod wedi cyflawni fy ngradd. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu a’r rhwydwaith o gyd-fyfyrwyr rwy wedi’i ffurfio, yn fy ngwaith addysgu yn y dyfodol”. 

Meddai’r Athro Cysylltiol Caroline Lohmann-Hancock “Llongyfarchiadau i Ken ar ennill Rhagoriaeth haeddiannol iawn yn ei radd MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas. Bu Ken yn astudio tra’r oedd yn gweithio fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni BA Eiriolaeth a BA Cymdeithaseg yn y Drindod Dewi Sant. 

“Mae bellach yn rhoi’i wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r dyfarniad hwn ar waith i gefnogi myfyrwyr eraill i ddatblygu eu cyfleoedd gyrfa, ac mae hefyd wedi dod yn aelod o’r tîm darlithio ar gyfer y radd MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas.” 

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk