Dathlu Dydd Nadolig Uniongred


12.01.2023

Gwahoddwyd ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion i ddathlu Dydd Nadolig Uniongred ar 07 Ionawr 2023 – gŵyl gyhoeddus sy’n cael ei ddathlu yn Wcráin.

Ceredigion County Council in partnership with the Widening Access Team at University of Wales Trinity Saint David (UWTSD), Lampeter Campus arranged for Ukrainians and all refugees in Ceredigion and those residing on the borders in Carmarthenshire and Pembrokeshire.

Trefnwyd bod yr unigolion o Wcráin a holl ffoaduriaid Ceredigion, ynghyd â’r rhai sy’n byw ar y ffin yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn dathlu diwrnod Nadolig Uniongred, a hynny gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â’r Tîm Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Campws Llanbed. Daethant at ei gilydd i ddathlu dydd Nadolig yr Eglwys Uniongred, sef prif grefydd Wcráin. Fe wnaeth y Brifysgol hefyd estyn gwahoddiad i’w myfyrwyr preswyl fynychu.

Mynychodd Laryssa y digwyddiad. Dywedodd: “Diolch yn fawr iawn i bawb a drefnodd y digwyddiad hwn i ni. Roedd yn braf, yn garedig ac yn flasus.”

Daeth dros 120 i’r digwyddiad lle gallai pawb gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae, cerddoriaeth a chrefft. Roedd cyfle hefyd i gael trafodaethau anffurfiol gydag asiantaethau partner a fyddai'n helpu gydag integreiddio i'r gymuned leol. Roedd y Groes Goch Brydeinig, Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y GIG, Gyrfa Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn bresennol. Rhannodd Housing Justice Cymru a Chyngor ar Bopeth Ceredigion wybodaeth ychwanegol ar eu stondinau.

Yn ymuno â’r Ffoaduriaid a’r Myfyrwyr roedd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Dirprwy Faer Llanbedr Pont Steffan; a’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan, Cynghorydd Llanbedr Pont Steffan. Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Roedd yn wych dod ag ystod o bobl o’r gymuned at ei gilydd mewn un lle i ddathlu Dydd Nadolig Uniongred gyda’n ffoaduriaid. Mae Ceredigion, yn ogystal â siroedd cyfagos, wedi croesawu eraill â breichiau agored. Roedd hwn yn gyfle i ddod â phawb at ei gilydd, rhannu gwybodaeth a dathlu’r diwrnod gyda’n gilydd ac roedd yn llwyddiant ysgubol.”

Dywedodd Samantha Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad PCYDDS: “Mae PCYDDS wedi ymrwymo i gael gwared ar y rhwystrau i gyfranogiad mewn Addysg Uwch a wynebir gan y rhai sy’n ceisio lloches yn y DU. Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn gwneud cais am statws Prifysgol Noddfa a fydd yn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chymorth am ddim yn ystod eu hastudiaethau. Mae wedi cynnig ysgoloriaeth sy'n galluogi myfyrwyr o Wcráin i astudio'r wobr ôl-raddedig mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy.”

Darparwyd adloniant gan Arts4wellbeing, Ceredigion Actif a grŵp Ukulele Llanbedr Pont Steffan. Benthycwyd beic smwddi yn garedig gan TGP Cymru.

Nodyn i'r Golygydd

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk