Dathlu llwyddiant myfyrwyr yn seremonïau Graddio Caerfyrddin


03.07.2023

Mae seremonïau graddio dosbarth 2023 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn parhau yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin heddiw (3 Gorffennaf).

Students image ahead of the Graduation in Carmarthen 2023

Mae’r seremonïau’n rhoi cyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hymrwymiad, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyflawniadau eu myfyrwyr.

Dywedodd Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’r seremoni raddio yn nodi uchafbwynt gyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae’n ganlyniad gwaith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.

“Bydd y myfyrwyr yn graddio gyda'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth yn eu gyrfa ddewisol. Hyderaf, wrth iddynt edrych yn ôl ar eu cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, eu bod yn mynd â’r cyfeillgarwch niferus a’r atgofion hapus o’u hamser yma gyda nhw, ac y bydd eu profiadau yn y brifysgol yn eu gwasanaethu’n dda gydol eu hoes.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn eu hatgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’w cefnogi ac yn gobeithio y byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”

Graduation Programme Carmarthen 2023

Bydd deuddydd o seremonïau yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon (Gorffennaf 3 a 4).

Gallwch wylio pob un o’r seremonïau’n fyw ar wefan y Brifysgol drwy fynd i:

Seremoni 1 (3 Gorffennaf, 3pm)

https://youtube.com/live/K1MbQ4PA2qk?feature=share

Seremoni 2 (3 Gorffennaf, 6pm)

https://youtube.com/live/SuWt6tGBrvU?feature=share

Seremoni 3 (4 Gorffennaf, 10pm)

 https://youtube.com/live/gqAFRG69pLs?feature=share

Seremoni 4 (4 Gorffennaf, 2pm)

https://youtube.com/live/CQl8WWY_JhY?feature=share

Graduation image of campus

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076