Dilyn ei hangerdd ar ôl blynyddoedd o fod yn rhiant
27.06.2023
Wrth ddychwelyd i fyd addysg ar ôl 25 mlynedd a magu teulu, gwelodd Umbereen Naeem gyfle a chydio ynddo â'i dwy law.
"Bellach a’r plant wedi tyfu i fyny, rwy wedi cael y cyfle i ddilyn fy awch am waith cymdeithasol," meddai. "Mae astudio yn gyfle i dyfu’n bersonol, i gael cyfleoedd gyrfa, sicrwydd swydd a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
"Rwy am helpu eraill a gwneud gwahaniaeth a dyna pam, pan weles i’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Drindod Dewi Sant, ces i fy nenu ato ar unwaith.
"Fe wnes i ffrindiau da o'r dechrau, ac roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd croesawgar. Ces i gymorth gan ddarlithwyr a staff a dysgu sgiliau ymarferol, gan wella fy hyder yn y broses.
"Un uchafbwynt oedd dod yn gynrychiolydd y cwrs a bod yn llefarydd, gan helpu i ddatrys problemau. Bu digon o gyfleoedd i symud ymlaen, ac rwyf wedi ymgymryd â sawl rôl gwirfoddoli gan gynnwys mewn canolfan cymorth i deuluoedd, Addysgu Iaith Saesneg ac ar gwrs gofal domestig.
"Yn gyffredinol, byddwn i’n argymell y cwrs hwn i eraill oherwydd lefel y cymorth a'r hwb a ddarparwyd. Mae'r cwrs eisoes wedi fy helpu i'n broffesiynol ac yn bersonol, a'm cynlluniau erbyn hyn yw gweithio gyda phlant sydd â phroblemau ymddygiad mewn amgylchedd ysgol."
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078