Dr Luci Attala o’r Drindod Dewi Sant yn mynychu 16eg Sesiwn Gyffredin Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) Cyngor Rhynglywodraethol UNESCO (IGC)
26.04.2023
Yn gynharach y mis hwn, mynychodd Cyfarwyddwr canolfan UNESCO-BRIDGES UK, Dr Luci Attala, 16eg Sesiwn Gyffredin o Gyngor Rhynglywodraethol UNESCO - MOST ym Mharis gyda Chyfarwyddwr Gweithredol BRIDGES, yr Athro Steven Hartman.
Mae'r Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) yn un o brif raglenni UNESCO o dan y Sector Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol, sy'n hyrwyddo'r defnydd o wybodaeth gwyddorau cymdeithasol a dynol.
Mae Cyngor Rhynglywodraethol (IGC) MOST yn cynnwys 35 o Aelod-wladwriaethau UNESCO sy'n sefydlu'r meysydd blaenoriaeth i'w hymchwilio, yn penderfynu ar gwestiynau cyffredinol ynghylch polisi a chyllid, ac yn rheoli'r cysylltiadau ag awdurdodau'r llywodraeth. Mae ei swyddogaeth yn cynnwys cymeradwyo strategaethau a rhaglenni a hwyluso cysylltiadau â chanolfannau ymchwil cenedlaethol a llunwyr polisi.
Eleni, cynhaliwyd 16eg Sesiwn Gyffredin Cyngor Rhynglywodraethol (IGC) MOST ym Mhencadlys UNESCO ym Mharis, pan oedd canolfannau BRIDGES yn gallu cyflwyno eu cyflawniadau i’r Aelod-wladwriaethau ar gyfer sylwadau. Yn ddieithriad, pleidleisiodd yr Aelod-wladwriaethau i barhau i gefnogi gwaith BRIDGES.
Yn dilyn ei hymweliad â Pharis, dywedodd Dr Luci Attala:
“Mae'r IGC yn ymgynnull bob dwy flynedd i bwyso a mesur cyflawniadau allweddol ac mae'n disgrifio camau gweithredu yn y dyfodol, gan gynnwys meysydd blaenoriaeth ymchwil a strategaeth rhaglenni. Gwnaethom edrych yn ôl ar y camau a gymerwyd yn 2021-2023 a phennu blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf.
Rydyn ni eisiau gweld newid cymdeithasol cadarnhaol ac mae MOST yn cryfhau'r cysylltiad rhwng yr hyn rydyn ni'n ei wybod a sut rydyn ni'n gweithredu arno. Y prif nod yw hyrwyddo newid a hynny ar hyd llwybr mwy cynhwysol trwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ei ddimensiynau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a thechnolegol.
Roedd sefydlu Canolfan BRIDGES yn y brifysgol yn ddatblygiad allweddol i'r Brifysgol. Mae arbenigedd y Brifysgol ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol bellach yn rhan o rwydwaith rhyngwladol sy’n anelu at ddatblygu atebion gwydn i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn wir, mae bellach yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod gwytnwch byd-eang, cynaliadwyedd a’r amgylchedd ar flaen y gad wrth lunio polisïau.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076