Drysau’n agor ar gyfer y diwrnod Lletygarwch a Gastronomeg
11.05.2023
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal Diwrnod Diwydiant Lletygarwch a Gastronomeg yn ei Hadeilad IQ ar Gampws SA1 Glannau Abertawe.
Cynhelir y diwrnod ar ddull cynhadledd ddydd Llun 22ain Mai, a bydd y drysau’n agor am 9.30am gyda’r siaradwyr rhwng 10am i 2.30pm.
Nod y digwyddiad yw annog ac addysgu darpar weithwyr proffesiynol, myfyrwyr presennol a cholegau AB am yrfaoedd a thueddiadau o fewn sector Lletygarwch ffyniannus Cymru a thu hwnt.
Ymhlith y siaradwyr y mae gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant lletygarwch a gastronomeg sy’n gweithio yn ne Cymru, gan gynnwys Thomas Ferrante, Cyfarwyddwr Grŵp yn Seren Collection; Christie Hayes, Rheolwr Bwyty’r Flwyddyn, Beach House; Vicky Probert, Cyfarwyddwr Gwerthu yn y Village Hotels; a Martyn Guest, Prif Gogydd Stadiwm Swansea.com.
Caiff mynychwyr glywed hefyd gan bencampwyr presennol y World Young Chef Young Waiter, sef Tilly Morris ac Ali Halbert, a roddodd dîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl ennill y rowndiau terfynol rhanbarthol a gynhaliwyd gan PCYDDS yn Abertawe’r hydref diwethaf, a phencampwriaethau’r byd ym Monaco.
Bydd Sean Valentine FIH, Rheolwr Gyfarwyddwr Cystadleuaeth World Young Chef Young Waiter yn siarad yn y digwyddiad hefyd.
Ffion Cumberpatch, Rheolwr Rhaglen Lleoliadau ar gyfer Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn PCYDDS sy’n trefnu’r digwyddiad, ac meddai: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Cynhadledd Lletygarwch PCYDDS, ffordd i fyfyrwyr presennol, darpar fyfyrwyr a busnesau lletygarwch ddod ynghyd i ddysgu a rhwydweithio ag arweinwyr diwydiant."
Ychwanega Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen ar gyfer MBA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol yn PCYDDS: “Credwn yn gryf ei bod hi’n amser gwych i ymuno â’r diwydiant lletygarwch.
“Gyda chyfleoedd anhygoel am leoliadau ar gynnig gan PCYDDS, megis gyda’r Seren Collection, Thomas ym Mhontcanna, Ynyshir, Marriott a Hilton Hotels i enwi dim ond rhai, rydym yn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl yn y diwydiant i fyfyrwyr ochr yn ochr â’u gradd.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd lletygarwch, neu mewn astudio yn PCYDDS ar gyrsiau arbenigol y diwydiant mewn Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol neu Reolaeth Gastronomeg Ryngwladol gofrestru am docyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad yma.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071