Ethol Cyfarwyddwr Addysg, Ymchwil ac Ymholi yn Llywydd y Rhwydwaith Hyrwyddo Addysg Athrawon
03.02.2023
Mae Cyfarwyddwr Addysg, Ymchwil ac Ymholi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i ethol yn Llywydd y Rhwydwaith Hyrwyddo Addysg Athrawon (TEAN).
Bydd Elaine Sharpling o Athrofa y Drindod Dewi Sant yn ymgymryd â’r rôl i hyrwyddo cymuned dysgu proffesiynol i addysgwyr athrawon ledled y DU a thu hwnt. Cafodd ei henwebu gan aelodau o gymuned TEAN, ar ôl bod yn aelod o’i fwrdd golygyddol.
Meddai Elaine: “Rwy’n falch o gael her newydd – fel addysgwr athrawon, rwy’n cefnogi dysgu gydol oes, ac mae’r cyfleoedd hyn yn ein hannog i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Ac, wrth gwrs, rwy’n llawn cyffro i gynrychioli Cymru a’r Drindod Dewi Sant.”
Penodwyd Elaine i rôl newydd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Addysg, Ymchwil ac Ymholi yn y Brifysgol. Bydd cael ei phenodi’n Llywydd TEAN hefyd yn cefnogi cyfeiriad y Brifysgol wrth ddatblygu diwylliant ymchwil mwy cadarn sydd â chysylltiad cryf ag ymarfer proffesiynol.
Bydd Elaine yn cychwyn ar ei swydd yn syth ac mae’n edrych ymlaen at fis Mai pan fydd hi’n croesawu cynadleddwyr i gynhadledd flynyddol y Rhwydwaith ym Manceinion i ystyried yr ymchwil diweddaraf ym maes addysg athrawon.
Ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at glywed ein dau brif siaradwr – yr Athro Hazel Bryan a fydd yn trafod sut y gallwn ddysgu o’n profiadau cyfunol o’r gorffennol i wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd, a Sameena Choudry a fydd yn tynnu ein sylw at addysg deg a chau’r bwlch cyrhaeddiad hwnnw sy’n rhy gyffredin o lawer.
“Mae’r ansicrwydd a achoswyd gan yr adolygiad o’r farchnad Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn Lloegr wedi denu sylw sawl addysgwr athrawon, a hynny’n ddigon teg, ond mae gan Gymru lawer i’w chynnig o ystyried ei diwygiad i Addysg Athrawon a’r Cwricwlwm i Gymru.
“Hoffwn ddatblygu’r cyfleoedd i Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru ddysgu gan ei gilydd – a chynnig croeso cynnes i’r rhai sydd ymhellach i ffwrdd wrth gwrs.”
Meddai’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Dylan Jones:
“Pleser o’r mwyaf yw gweld Elaine yn derbyn y cyfrifoldeb newydd hwn. Mae’n adlewyrchu’n dda ar y gwaith ardderchog a wnaed ganddi wrth arwain Addysg Athrawon yn y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn cydnabod ei rhan hollbwysig yn yr orchwyl o ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer Yr Athrofa: y Ganolfan Addysg yn gyfrannwr allweddol i’r gwaith o hyrwyddo addysg athrawon a datblygiad proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476