Ffoaduriaid a myfyrwyr yn cydweithio i ddarlunio murlun
26.04.2023
Mae myfyrwyr Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn cydweithio gyda Oasis, canolfan ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, i greu murluniau artistig trawiadol.
Ymunodd myfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y ganolfan lle buont, mewn digwyddiad arlunio byw, yn rhannu sgiliau a chreu gweithiau celf ar raddfa fawr i arlunio’r muriau.
Roedd y gweithdy’n cyd-daro â Dydd Gŵyl Dewi, gan ychwanegu elfen o ddiwylliant Cymreig i’r thema ‘Dathlu’ y gofynnwyd i’r cyfranogwyr ei harchwilio yn eu darluniau. Ymunodd nifer o bobl yn y gweithgarwch a chafodd pawb ddiwrnod wrth eu bodd.
Mae’r gweithiau celf a grëwyd gan y myfyrwyr a’r ffoaduriaid bellach i’w gweld yng Nghanolfan Oasis, ac mae’r Brifysgol wedi gwneud cynlluniau i barhau â’r cydweithio drwy gynnal gweithdy argraffu ar Gampws Dinefwr a gŵyl haf yng Nghanolfan Oasis yng Nghaerdydd.
Meddai Anais Gauci, myfyriwr Darlunio yn y Drindod Dewi Sant: “Cawsom groeso cynnes iawn gan bawb yng Nghanolfan Oasis, ac roedd y myfyrwyr eraill a minnau’n ddiolchgar i glywed eu straeon cyfareddol. Gwnaeth clywed am brofiadau mor wahanol gyfoethogi fy nealltwriaeth o’u sefyllfa ac roedd yn wych i gysylltu â phawb yn yr ystafell drwy gelf.”
Meddai Jonathan Williams, darlithydd Darlunio yn y Drindod Dewi Sant: “Roeddem yn eithriadol o falch o’r modd y gwnaeth y myfyrwyr a’r ffoaduriaid ymgysylltu â’i gilydd a’r gweithdai ar ddiwrnod creadigol a phleserus i bawb dan sylw. Roedd yn hyfryd gweld y myfyrwyr yn rhannu eu sgiliau i greu murlun cydweithredol, a fydd yn atgoffa ymwelwyr yn y ganolfan o’r hyn y gallant ei gyflawni.”
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddarparwr blaenllaw o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 1af yng Nghymru mewn pedwar pwnc Celfyddydol, yn 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, yn 8fed yn y DU am Ddylunio Cynnyrch ac yn 10fed yn y DU am Ddylunio Graffig.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078