Galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n aruthrol erbyn 2035


24.08.2023

Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK.

Students in graduation gowns throwing their caps in the air at Swansea Arena.

  • Erbyn 2035, bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion, a disgwylir y bydd 88% o swyddi’r Deyrnas Unedig ar lefel graddedigion.
     
  • Bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol ar fusnesau’r Deyrnas Unedig erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes
     
  • Prifysgolion Cymru yn cael eu canmol am feithrin sgiliau a phrofiadau gwerthfawr mewn diwydiannau newydd, gan gynnwys roboteg a deallusrwydd artiffisial (AI).

Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK (UUK), sy’n amcangyfrif y bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion erbyn 2035.

Yn y cyfamser, mae arolwg o gwmnïau FTSE 350 a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r adroddiad yn dangos bod busnesau yn gosod eu golygon yn bendant ar y gronfa dalent yng Nghymru, gydag un o bob pump yn bwriadu recriwtio talent o ardal Caerdydd dros y pump i ddeg mlynedd nesaf.

Ar draws y Deyrnas Unedig, bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol i lenwi swyddi erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes. Ar hyn o bryd, mae 15.3 miliwn o raddedigion yng ngweithlu’r Deyrnas Unedig, felly mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y galw.

Mae disgwyl y bydd datblygiad AI yn benodol yn cael effaith sylweddol ar dueddiadau cyflogi, gyda graddedigion yn debygol o elwa o’r maes hwn sy’n tyfu’n gyflym. O ganlyniad i AI, bydd cynnydd net o 10% yn y swyddi yn y Deyrnas Unedig y bydd angen gradd ar eu cyfer dros yr 20 mlynedd nesaf, gan gynnwys bron i 500,000 yn rhagor o swyddi proffesiynol a gwyddonol.

Mae’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymgorffori AI yn ei fframwaith addysgu. Mae hyn yn gwella galluoedd entrepreneuraidd y myfyrwyr yn sylweddol, ac mae hynny’n gwbl angenrheidiol o ystyried y galw cynyddol am alluoedd AI yn y farchnad swyddi. Drwy wneud defnydd o AI, mae’r rhaglen PGCert mewn Sgiliau Menter yn ymgorffori cyfuniad unigryw o ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun a phrofiadau rhyngweithiol, cydweithredol sy’n efelychu senarios yn y byd go iawn. Mae ARDEC yn deall bod profiad o’r byd go iawn yn cyfoethogi’r dysgu’n sylweddol, a dyna pam mae lleoliadau gwaith sy’n galluogi’r myfyrwyr i weithio’n uniongyrchol gydag AI yn rhan annatod o’r rhaglen hefyd.

Mae’r newidiadau arwyddocaol hyn i’r tirlun cyflogaeth yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol dysgu gydol oes hefyd. Dywedodd dros hanner (54%) yr ymatebwyr i arolwg y FTSE350 eu bod yn disgwyl y bydd angen i weithlu’r dyfodol ailhyfforddi o leiaf unwaith yn ystod eu gyrfa o ganlyniad i gyflymder aruthrol newidiadau technolegol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson:

“Mae mwy na chwarter gweithlu presennol y Deyrnas Unedig heb ddigon o gymwysterau ar gyfer y swydd y maen nhw ynddi – ac mae’r blynyddoedd lawer o dwf di-baid yn y galw am raddedigion yn golygu ein bod yn ceisio dal i fyny er mwyn arfogi ein cyflogwyr â’r hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo.

“O iechyd a thechnoleg i sgiliau digidol ac addysg, mae graddedigion prifysgol yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant yr economi, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein harfogi i allu parhau i ddiwallu’r angen hwn – a’n bod yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy ac yn hygyrch a bod lefel uchel yr addysg a ddarperir gan ein sefydliadau ar hyn o bryd yn cael ei chynnal.”

Dywedodd Alex Hall-Chen, Prif Ymgynghorydd Polisi ar gyfer Cynaliadwyedd, Sgiliau a Chyflogaeth yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr:

“Mae prinder parhaus a dybryd o ran sgiliau yn un o’r pryderon sy’n pwyso fwyaf ar fusnesau’r Deyrnas Unedig. Mae’r galw am sgiliau trosglwyddadwy – fel meddwl yn feirniadol a chyfathrebu – yn parhau’n gryf ar draws pob sector, a bydd sector addysg uwch y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl allweddol yn datblygu llif o dalent gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau er mwyn ffynnu.”

Wrth dynnu sylw at yr angen am ragor o weithwyr â sgiliau, mae UUK wedi canmol prifysgolion Cymru am feithrin sgiliau a phrofiadau y mae galw mawr amdanynt mewn diwydiannau newydd – o ymgorffori AI mewn cwricwla a fframweithiau addysgu i gefnogi graddedigion sy’n sefydlu cwmnïau newydd ym maes realiti rhithwir a datblygu technoleg roboteg sydd ar flaen y gad.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk