Gradd ddigidol Y Drindod Dewi Sant yn helpu prentis i drawsnewid gofal iechyd cleifion


03.01.2023

Mae'r Rheolwraig Gwybodaeth a Chynnwys sydd newydd gael ei dyrchafu, Samantha John, yn defnyddio sgiliau o’i Phrentisiaeth Gradd Ddigidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu i lunio a thrawsnewid gofal iechyd i gleifion.

Newly promoted Knowledge and Content Manager Samantha John is using skills from her Digital Degree Apprenticeship at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) to help shape and transform health care for patients.

Mae Samantha, sy'n gweithio i Iechyd Digidol Cymru (DHCW), yn dweud bod ganddi brofiad uniongyrchol o’r effaith y gall gwasanaethau gwybodaeth ei chael ar ofal cleifion.

Meddai: "Pan benderfynes i gofrestru yn brentis gradd ddigidol fy mhrif nod oedd cael gwybodaeth newydd mewn maes a oedd o ddiddordeb i mi a gwella fy lefel gyffredinol o addysg er mwyn i mi allu datblygu fy ngyrfa.

"Fodd bynnag, ar ôl dim ond cyfnod byr ar y cwrs, sylweddoles i fod fy nodau wedi newid, rwy’n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ers nifer o flynyddoedd ac wedi cael profiad uniongyrchol o’r effaith y gall systemau gwybodaeth ei chael ar ofal cleifion. Sylweddoles i y gallai’r sgiliau a'r wybodaeth yr oeddwn i'n eu hennill drwy'r cwrs helpu i lunio a thrawsnewid y gwasanaethau a ddarparwyd gennym i gleifion sy'n defnyddio'r GIG." 

Dywedodd Samantha fod yr angen i ddarparu ar gyfer ei theulu ifanc yn golygu nad oedd hi'n gallu dod yn fyfyrwraig amser llawn. "Ond mae'r gallu i astudio o bell yn rhan-amser wrth barhau i weithio wedi gwneud addysg bellach yn bosib i mi," ychwanegodd.

"Er fy mod i eisoes wedi dechrau ar lwybr dysgu addysg  bellach yn fy rôl flaenorol, dewises i drosglwyddo i'r Drindod Dewi Sant pan ymunes i ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  O'n i'n teimlo y byddai'n rhoi cyfle i gysylltu â myfyrwyr eraill mewn sefyllfa debyg i mi fy hun. Mae rhwydwaith cymorth Y Drindod Dewi Sant wedi ei gynnig imi ers trosglwyddo wedi fy helpu'n fawr i gael y gorau o’m hastudiaethau."

Dywedodd Samantha mai un o nifer o uchafbwyntiau'r cwrs yw'r sesiynau rhyngweithiol a gynigiwyd yn ystod llawer o'r modylau.  

"Yn ystod y modylau rhwydweithio a rhai datblygu meddalwedd datblygedig roedd cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol gyda chymorth darlithydd," meddai. "Roedd pob sesiwn wedi ei llunio i adeiladu ar y sesiynau a addysgir, gan roi gwell dealltwriaeth i chi o sut i weithredu ystod o feddalwedd. Yn bersonol, roeddwn i'n gweld bod y sesiynau hyn yn fanteisiol iawn gan fy mod i'n ddysgwr gweledol."

Er ei bod wedi wynebu rhai heriau yn ystod ei hastudiaethau, dywedodd Samantha ei bod wedi bod yn ffodus i gael rhwydwaith cymorth ardderchog o fewn DHCW yn ogystal â staff cymorth graddau digidol yn Y Drindod Dewi Sant a'i theulu.   

Meddai: "Mae'r cymorth hwn wedi fy helpu i oresgyn yr heriau hyn. I mi, yr her fwyaf oedd jyglo fy amser; mae cael teulu ifanc a chymryd swydd amser llawn wedi golygu bod rhaid i mi gynllunio fy amser yn ofalus iawn er mwyn sicrhau bod gen i gydbwysedd rhwng gwaith, astudio, a bywyd.

"Er bod amseroedd pan roedd hi’n dreth arna i, roedd fy nghydweithwyr a’m swyddog cyswllt  yn fy annog yn barhaus i fynd drwy'r amseroedd anodd a gweld y budd yn y pen draw. "

Dywedodd Samantha y byddai'n argymell y cwrs i'r rhai sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, gwella eu gwybodaeth a datblygu eu gyrfa.

"Er ei bod hi’n ymddangos o'r tu allan fod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar sgiliau technegol a gwybodaeth, rwy'n teimlo fy mod i wedi datblygu llawer o  sgiliau eraill y  galla i eu trosglwyddo a'u defnyddio yn fy rôl, er enghraifft sgiliau adrodd ac ysgrifennu," ychwanegodd.

Mae Samantha, a fydd yn graddio haf nesaf, hefyd yn canmol Y Drindod Dewi Sant am ei helpu i sicrhau rôl newydd yn y Ddesg Wasanaeth.

"Rwy'n gobeithio y ca i gyfle i ddefnyddio llawer o’r sgiliau rwy newydd eu dysgu a chael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu i'n cwsmeriaid a'n cleifion sy’n defnyddio’r GIG," meddai.

"Mae'r radd prentisiaeth ddigidol wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi o ran fy ngyrfa. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ymgeisio am swyddi newydd yn y GIG ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd i mi. Dwi hefyd yn teimlo bod y cwrs hwn wedi gwella fy hyder ar lefel bersonol."

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk