Graddedigion PCYDDS Llundain yn dathlu llwyddiant
17.07.2023
Mae dwy Seremoni Raddio ar gyfer ein graddedigion Campws Llundain yn cael eu cynnal heddiw yn y Guildhall yn Llundain.
Mae mwy na 400 o raddedigion, o lefel CertHE i Ôl-raddedig, yn mynychu gyda'u ffrindiau, eu teuluoedd ac aelodau staff ar yr achlysur cofiadwy hwn.
Mae’r seremonïau graddio yn cynnig cyfle i ddathlu llwyddiant, gwaith caled ac ymrwymiad graddedigion PCYDDS ac yn rhoi cyfle i gymuned y Brifysgol dalu teyrnged i ymroddiad o’r fath.