Gwaith yn dechrau ar Fatrics Arloesi'r Drindod Dewi Sant yn Abertawe - canolfan newydd ar gyfer menter ac arloesi digidol


08.06.2023

Mae gwaith wedi dechrau ar y Matrics Arloesi, y cam nesaf yn Ardal Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe. 

Work has commenced on the Innovation Matrix, the next phase in the University of Wales Trinity Saint David’s (UWTSD) Innovation Quarter at SA1 Swansea Waterfront.

Mae'r Matrics Arloesi’n ganolog i uchelgais y Brifysgol yn Abertawe a bydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer ymchwil a chyfnewid gwybodaeth Y Drindod Dewi Sant i gysylltu â chwmnïau rhyngwladol, BBaCh, microfentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr traws-sector, a’u cefnogi i ysgogi twf masnachol ar gyfer economi Cymru sydd wedi’i grymuso’n ddigidol ac sy'n ehangu. 

Wedi'i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Matrics Arloesi’n annog ac yn cefnogi datblygu economi gynaliadwy a arweinir gan arloesedd, sy'n seiliedig ar wybodaeth, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod Dewi Sant: “Mae'r Matrics Arloesi’n darparu cyswllt hanfodol i gampws ehangach y Brifysgol yn Abertawe, gan gynnwys IQ a’r Fforwm, Technium 1 a 2, Canolfan Dylan Thomas, Campws Busnes Abertawe,  Ardal Gelfyddydol Dinefwr, ALEX ac Adeilad y BBC.  Mae'n cynrychioli ehangiad mawr yn ecosystem arloesi'r Brifysgol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi twf economaidd a thrawsnewid yn rhanbarth Bae Abertawe."

Mae'r adeilad yn arwydd o gam sylweddol ymlaen yn agenda carbon sero-net y Brifysgol gan ddarparu gofod 2,200 metr sgwâr o ansawdd uchel, a bydd wedi'i leoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol, sef IQ a’r Fforwm, yng nghanol Ardal Arloesi Abertawe. Mae'r Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â'r penseiri Stride Treglown a'r cwmni adeiladu Kier i wireddu'r datblygiad cyffrous hwn a fydd yn agor yn 2024.

Cynhaliwyd digwyddiadau cychwyn ar y safle ddydd Mercher a dydd Iau, 7fed ac 8fed Mehefin, lle’r oedd Mr Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru; y Gwir Anrhydeddus David T.C. Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU; Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart; ac uwch swyddogion yn cynrychioli Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bresennol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd. Mae gan y Matrics Arloesi rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r weledigaeth honno gan wasanaethu fel catalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.

“Mae'r Matrics Arloesi’n enghraifft wych o’r byd academaidd a diwydiannol yn gweithio'n agos i helpu i yrru arloesedd a rhagoriaeth. Mae ganddo'r potensial i ddatgloi deallusrwydd cyfunol er mwyn mynd i'r afael â heriau cymhleth yn fwy effeithiol, cyflymu cyflymder arloesi a sbarduno newid ystyrlon yn ein cymdeithas."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â'r cyfleuster newydd cyffrous hwn ar gyfer Abertawe. Mae Llywodraeth y DU yn falch o fuddsoddi ym Margen Ddinesig Bae Abertawe a helpu i greu lleoedd fel hyn lle gall ymchwilwyr, arloeswyr, busnesau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr i gyd ddod at ei gilydd a lle gall syniadau ffynnu.

“Ynghyd â'n partneriaid, rydym am dyfu'r economi ddigidol yng Nghymru a chreu swyddi sy’n talu’n dda ar gyfer y dyfodol a lledaenu ffyniant. A lleoedd fel y Matrics Arloesi fydd yn helpu i sicrhau hyn."

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant:

Y Matrics Arloesi yw'r cam nesaf yn uchelgais y Brifysgol i drawsnewid glannau Abertawe yn gymdogaeth lle bydd pobl yn gweithio, yn astudio ac yn byw, a lle bydd y Brifysgol a'i phartneriaid yn cydleoli ac yn cydweithio. Gyda'n gilydd, rydym yn creu canolfannau menter newydd a chynlluniau cyflymu sgiliau uchel i dyfu busnesau newydd sy'n gysylltiedig â'n portffolio. Rydym hefyd yn datblygu sgiliau busnesau presennol ac yn denu buddsoddiad newydd i'r rhanbarth".

I gloi, meddai yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Nod y Brifysgol yw datblygu ein campysau ar draws y rhanbarth yn ganolfannau effaith sy'n cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol a sicrhau ein bod ni’n ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Mae'r Matrics Arloesi’n ddatblygiad allweddol i'r Brifysgol ac rydym yn ddiolchgar o fod yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ”.

Nodyn i'r Golygydd

NODIADAU I'R GOLYGYDD

1        Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Y Drindod Dewi Sant, conffederasiwn o nifer o sefydliadau gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae Prifysgol Cymru yn bartner i'r grŵp. Mae Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau. 

Gweledigaeth Y Drindod Dewi Sant yw bod yn brifysgol sydd ag ymrwymiad i les a threftadaeth y genedl wrth wraidd ei holl weithgareddau. Yn ganolog i'r weledigaeth mae hyrwyddo ac ymgorffori system addysg sector deuol sy'n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, ac sy’n ysgogi datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ledled Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y Brifysgol ym 1822 a dathlodd ei daucanmlwyddiant yn 2022. Hi yw man geni addysg uwch yng Nghymru. Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw'r hynaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Mae campysau'r Brifysgol wedi'u lleoli yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham. 

Mae'r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud myfyrwyr yn ganolog i’w chenhadaeth trwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, darparu amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a'i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.  

2        Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Dros gyfnod 15 mlynedd y portffolio, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £1.8 biliwn o leiaf i'r economi ranbarthol, wrth gynhyrchu dros 9,000 o swyddi. Arweinir Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol - Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

Ffôn | Phone: 07384 467071

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk