Lliniaru Tlodi yng Nghymru – Rôl Prifysgolion
28.06.2023
Cafodd gwaith y Brifysgol ei gynnwys mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos hon i dynnu sylw at y gwaith pwysig mae prifysgolion yng Nghymru yn ei wneud yn eu cymunedau. Bwriad y digwyddiad oedd dangos sut mae prifysgolion yn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau ledled Cymru. Cafwyd y cyfle i arddangos Canol Galw Heibio Blaen-y-Maes yn Abertawe a ddatblygwyd gan y tîm Ehangu Mynediad.
Sam Bowen, Rheolydd Ehangu Mynediad,Nicola Powell, Swyddog Datblygu Ymgysylltiad Dinesig (Abertawe a Chaerdydd), Anna Jones, Pennaeth Ymgysylltu Ddinesig, a Laura Cait Swyddog Datblygu Ymgysylltiad Dinesig (Caerfyrddin a Llambed).
Dangoswyd bod prifysgolion Cymru yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru gyfan – gan greu dros £5 biliwn y flwyddyn ar gyfer yr economi a chynnal un o bob 20 o swyddi ledled y wlad. Fodd bynnag, maent hefyd yn cael effaith sylweddol yn lleol, gan weithio ar lawr gwlad i ddiwallu anghenion penodol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru, a’i nod oedd arddangos y gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei wneud i helpu â lliniaru tlodi o wahanol fathau - o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a thlodi bwyd, i weithio gyda grwpiau difreintiedig i wella mynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau.
Ddwy flynedd ar ôl lansio Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru yn 2021, mae’r digwyddiad yn dangos sut mae gweithgarwch cenhadaeth ddinesig wedi parhau i ddatblygu ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda phrifysgolion yn cydweithio â phartneriaid i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Meddai Lynnette Thomas, Cadeirydd Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru:
“Mae gan ein prifysgolion rôl bwysig i’w chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, y tu hwnt i’w cylch gorchwyl traddodiadol o ddysgu, addysgu ac ymchwil.
“Mae tlodi yn her gynyddol sy’n wynebu pobol a lleoliadau yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, busnesau ac asiantaethau eraill, mae prifysgolion yn cael effaith sylweddol yn y maes hwn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau a gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ledled y wlad.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg:
“Er bod mwy i’w wneud bob amser, rwy’n falch bod sector addysg uwch Cymru yn arwain y ffordd gyda’n Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig.
“Mae gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch rôl hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â thlodi, oherwydd mae ganddynt adnoddau a galluoedd unigryw a all greu effaith sylweddol. Mae'n wych gweld ymrwymiad y sector i hyn.
“Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a sicrhau bod yr arfer da hwn yn parhau, yn datblygu ac yn tyfu mewn pwysigrwydd dros amser.”
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) – Canolfan Galw-Heibio Blaen y Maes
Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Galw-Heibio Blaen y Maes yn Abertawe i ddarparu cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu i deuluoedd ac oedolion. Wedi'i ariannu a'i gynnal gan adran Ehangu Mynediad a'i hymrwymiad i'r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach, mae'r prosiect wedi ymgysylltu â dros 60 o deuluoedd a 200 o aelodau'r gymuned hyd yn hyn. Mae gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at ddileu rhwystrau a fyddai fel arall yn atal cyfranogwyr rhag ymgysylltu wedi cynnwys sesiynau sy’n canolbwyntio ar lesiant, natur, y celfyddydau, rhifedd a llythrennedd, creu a meithrin hyder, yn ogystal â chyfleoedd i fod yn rhan o rwydwaith cymunedol ehangach PCyDDS drwy gyfrwng digwyddiadau lleol a chenedlaethol fel Gorymdaith y Nadolig yn Abertawe ac Wythnos Ffoaduriaid.