Mae atebion ynni cynaliadwy a chadwraeth amgylcheddol yn flaenoriaethau allweddol i un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant
20.07.2023
Mae Nye Evans, sydd wedi graddio mewn Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, yn gobeithio y gall ei wybodaeth a’i sgiliau helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau’n ymwneud â datblygu technolegau glanach, seilwaith cynaliadwy, ac ymdrechion cadwraeth amgylcheddol.
Meddai: “Gwelwn dargedau sero net ac addunedau cynaliadwyedd yn aml iawn, ac er mwyn cyrraedd y targedau hynny mae angen peirianwyr amgylcheddol arnom sy’n arloesi ac yn optimeiddio prosesau er mwyn lleihau allyriadau a’u gwneud nhw’n fwy effeithlon.
“Fy nodau a’m huchelgeisiau wrth ddilyn y cwrs hwn oedd dysgu llawer o sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol, berthnasol a defnyddiadwy i wella fy hun a gwneud gwahaniaeth yn y diwydiant. Roeddwn i hefyd am wneud fy nheulu’n falch a phrofi i fi fy hun y gallwn ei wneud.”
Dywedodd Nye mai un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd cydweithio mewn grwpiau ar dasgau anodd ac ymddiried yn eu sgiliau cydweithredol i gynhyrchu canlyniad da.
“Un arall oedd taith cwrs i Fachynlleth lle gwnaethom ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen a dysgu llawer iawn am ddulliau a thechnolegau cynnar a datblygol y gallwn weld mwy ohonynt, o bosibl, yn y sector ynni.”
Roedd traethawd hir Nye yn archwilio effeithlonrwydd a phrosesau rheoli ynni o fewn prifysgol ac roedd yn golygu gweithio’n agos ag adrannau mewnol y brifysgol.
“Roedd hyn yn bleserus iawn a rhoddodd flas i mi o waith y byd go iawn a’r hyn y gallwn fod yn ei wneud yn y dyfodol,” meddai.
“Rwy’n sicr wedi datblygu ac ennill sgiliau gan y cwrs a’r brifysgol yr wyf yn ddiolchgar amdanynt yn bersonol. Rydw i wedi gwella fy ngwybodaeth beirianyddol ddigon i gael fy ystyried am swyddi yn y diwydiant.
“Roedd cyfleoedd allanol da hefyd i ennill ardystiad a dyfarniadau i helpu gyda chyflogadwyedd a dilyniant personol megis llywio Rotor Drôn Realiti Rhithwir ac MOS.
“Fy nghynllun nawr yw chwilio am swydd, ac rwy’n gobeithio cael swydd foddhaus gyda dilyniant ac un y gallaf fwynhau mynd i mewn iddi bob dydd.”
Meddai Kelvin Lake, Uwch Ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant: "Amharwyd yn fawr ar amser Nye yn y Drindod Dewi Sant gan COVID (yn yr un modd ag amser yr holl fyfyrwyr sy’n graddio eleni), ond er gwaethaf hyn, mae wedi arddangos ei angerdd at y sectorau Ynni ac Amgylcheddol ac mae’n graddio’n llwyddiannus eleni a fydd yn sicrhau ei ddyfodol yn y meysydd hyn. Penllanw hyn oedd iddo edrych ar “Strategaethau Ynni, Lleihau Carbon a Rheoli yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin” ar gyfer traethawd hir ei flwyddyn olaf a fydd o fudd iddo ef a’r Brifysgol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk