Mae cydweithio’n allweddol, meddai’r fforwm polisi rhyngwladol cyntaf ar iechyd digidol
11.09.2023
Mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol os yw gwledydd am ddefnyddio grym technolegau newydd a tharfol i hyrwyddo iechyd digidol ar y cyd ar gyfer eu dinasyddion, meddai arbenigwyr. Mae’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, ymhlith uwch weithwyr proffesiynol o faes gofal iechyd, ymchwil a’r diwydiant sydd wedi galw am fwy o rôl i fentrau trawsffiniol sydd â safonau byd-eang a llwybrau manyleb yn sail iddynt.
Aeth yr Athro Dearing i’r Fforwm Polisi Rhyngwladol cyntaf ar gyfer iechyd digidol, a gynhaliwyd dros ddeuddydd yn rhan o gyngres y byd ar iechyd digidol a gwybodeg, MedInfo23, yn Sydney, Awstralia. Daeth y gyngres ag ystod eang o uwch swyddogion gweithredol at ei gilydd o lywodraethau, pobl bwysig iawn rhyngwladol, dirprwyaethau gweinidogol, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o’r diwydiant a’r gymuned wyddonol.
Meddai’r Athro Dearing: “Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni iechyd digidol yn gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’. Rydym wedi galw gweithwyr proffesiynol y diwydiant i mewn i weithio ochr yn ochr â’n tîm academaidd ac rydym yn parhau i archwilio a datblygu cysylltiadau pellach. Gwnawn hyn er mwyn darparu’r adnoddau i’n myfyrwyr ddatblygu eu harbenigedd unigryw i feithrin diwylliant o gynhwysiant, gan ddefnyddio eu sgiliau digidol a data i barhau i gyflwyno gwasanaeth iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’n dinasyddion.”
Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Ajeenkya D Y Patil (ADYPU) yn India lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gyfnewid arbenigedd ym maes technoleg a systemau gofal iechyd.
Bydd y bartneriaeth rhwng y prifysgolion yn arwain at gyflwyno rhaglenni technoleg iechyd ôl-raddedig yn ADYPU gyda’r nod o greu gweithwyr technoleg iechyd proffesiynol i gyfrannu tuag at ddarparu gofal iechyd cost-effeithiol yn India.
Mae arbenigedd Sefydliad Arloesi Digidol Cymru (WIDI), a ddatblygwyd gan y Drindod Dewi Sant ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn ganolog i’r bartneriaeth. Ymhlith y meysydd sy’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd y mae ymchwil ac arloesi, cyfnewid myfyrwyr a staff, a datblygiad proffesiynol. Mae cydweithrediadau tebyg hefyd ar y gweill gyda phrifysgolion yn Awstralia a St Louis yn yr Unol Daleithiau.
Cynhaliwyd y fforwm ar y cyd gan y Gymdeithas Gwybodeg Feddygol Ryngwladol (IMIA) a Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia, gyda nifer fawr o gyfranogwyr rhanbarthol a byd-eang yn cynrychioli’r sectorau cyhoeddus a phreifat.
Yn ei Hysbysiad cyhoeddus a gyhoeddwyd yr wythnos hon, rhagfynegodd y fforwm polisi gynnydd esbonyddol mewn galw defnyddwyr am wybodaeth i gynorthwyo gwneud penderfyniadau personol am iechyd a gofal. Dywedodd fod darpariaeth gofal iechyd yn parhau i esblygu mewn byd digidol, a bod gan lywodraethau gyfrifoldeb i sicrhau ei hansawdd a’i heffeithiolrwydd.
“Mae trawsnewidiad tarfol gofal iechyd yn rhoi pwynt tyngedfennol i lywodraethau ddilyn llwybr gwahanol i’r gorffennol. Yn awr, ceir cyfle unigryw i ymateb i’r tarfu hwn mewn ffordd amserol, gydweithredol, a phwyllog a chreu llwybrau rheoleiddiol a pholisi cynaliadwy ar gyfer cyfnod gofal iechyd newydd.”
Galwodd y fforwm ar arweinwyr gofal iechyd i fod yn “feiddgar, radical, a dal ati,” gan ddweud fod gan wledydd heriau cyffredin yr oedd angen mynd i’r afael â nhw.
“Rhaid i arweinwyr ar draws gofal iechyd wneud penderfyniadau anodd, megis mynd i’r afael â heriau o ran gweithlu, newid ymddygiadau, cyflwyno rheoliadau galluogi blaengar a sicrhau bod y system gofal iechyd yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio gan ddefnyddio technoleg ddigidol.”
Roedd angen i systemau gofal iechyd gyflawni gwybodaeth gofal iechyd mwy cyflawn, dibynadwy a hygyrch drwy safonau sy’n gwella’r gallu i ryngweithredu. Byddai hyn yn ysgogi profiadau gofal iechyd gwell, yn integreiddio gofal, ac yn cefnogi hawliau dinasyddion i gael mynediad i’w gwybodaeth gofal iechyd.
“Fel arweinwyr yn y sector iechyd digidol rhyngwladol, mae’n angenrheidiol ein bod ni’n creu momentwm, gan weithio ar y cyd i weithredu newid ystyrlon, cefnogi’r gwaith o gyflwyno technolegau arloesol yn ddiogel, a darparu canlyniadau gofal iechyd gwell i bawb.”
Roedd y drafodaeth bolisi eang yn ymdrin â datblygiadau megis cyflwyno deallusrwydd artiffisial (AI), gan ddweud bod angen integreiddio AI yn ofalus â systemau gofal iechyd presennol er mwyn sicrhau bod tegwch iechyd yn cael ei gynnal a bod systemau’n parhau’n ddiogel ac yn ddibynadwy.
“Mae hyn yn gofyn am strwythurau llywodraethu sydd ag awdurdod digonol, wrth fod â’r gallu i addasu i alluoedd technoleg sy’n newid yn gyflym hefyd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk