Mae MADE Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dod â gweithgynhyrchwyr at ei gilydd ar gyfer digwyddiad mawr ym mis Medi!
04.09.2023
Mae MADE Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn falch o gyhoeddi amserlen a manylion Uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru 2023.
Gan adeiladu ar lwyddiannau'r blynyddoedd blaenorol, bydd y digwyddiad eleni yn dod â phobl ynghyd i ddathlu'r sector gweithgynhyrchu bywiog yng Nghymru. Bydd hefyd yn nodi diwedd cyfnod presennol MADE Cymru wrth i gyllid yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben. Byddwn hefyd yn rhannu’r newyddion diweddaraf am yr hyn sydd ar y gweill ar gyfer y prosiect.
Cynhelir y digwyddiadau eleni wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnig gweithdai rhyngweithiol ac ymarferol llawn gwybodaeth ar gyfer cynadleddwyr. Bydd cyfle arbennig hefyd i gyfarfod a sgwrsio gyda chynadleddwyr eraill o dde a gogledd Cymru mewn ciniawau rhwydweithio.
Bydd gweithdai yn ymdrin â phynciau fel rheoli arloesedd a chasglu data. Bydd cynadleddwyr â sesiwn Abertawe hefyd yn cael cyfle i weld yr Ystafell Drochi newydd, sy'n defnyddio sgriniau Samsung LED ar draws tair wal er mwyn creu profiad rhithwir o realiti. Dyma eich cyfle i brofi Realiti Estynedig.
Bydd myfyrwyr cyfredol a chyn fyfyrwyr MADE Cymru yn chwarae rhan weithredol yn y digwyddiadau eleni.
Cwblhaodd Lowri Roberts, Cynghorydd Twf Menter Môn/Busnes Cymru gwrs MSc mewn Rheoli Arloesi gyda MADE Cymru.
Yn ôl Lowri: "Mae astudio Arloesi Rhyngwladol gyda MADE Cymru, wedi cael effaith sylweddol ar sut rydw i'n cynnig cefnogaeth mewn cyfnod o dwf a delio gyda byd busnes mewn amgylchedd masnachol sy’n newid yn gyflym. Yn y gorffennol, byddwn yn pwyso ar fy hyfforddiant, fy mhrofiad masnachol a’m gallu i ddatrys problemau.
"Mae'r ddarpariaeth MSc wedi newid fy ffordd o feddwl a dwi bellach yn meddwl yn fwy creadigol am yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw. Mae astudio yn y Drindod Dewi Sant a’r ffaith fy mod wedi derbyn y cyfle i’w cynrychioli mewn Cynadleddau Arloesi rhyngwladol wedi fy ngalluogi i ehangu fy rhwydwaith cenedlaethol a byd-eang. Mae rhyngweithio fel hyn yn cynnig cyfle i drafod heriau busnes sy’n gyffredin i ni gyd a defnyddio amrywiaeth eang o brofiadau, ynghylch y ffyrdd mwyaf diweddar o feddwl am economi gylchol (Circularity), Diwydiant 5, a soffistigeiddrwydd busnes.
"Dwi'n edrych ymlaen at fod yn bresennol a’r cyfle i gydweithio gydag eraill o’r garfan, yn y digwyddiad hwn. Digwyddiad a fydd yn ein galluogi i rannu ein profiadau."
Yn ôl Lisa Lucas, Pennaeth MADE Cymru: "Dwi ddim yn meddwl y gallai unrhyw un fod wedi rhagweld llwyddiant MADE Cymru. Yr hyn sy'n fy nghyffroi fwyaf ydi'r effeithiau annisgwyl y mae wedi'u creu. Mae wedi dod ag amrywiaeth eang o sectorau at ei gilydd, gan greu rhwydwaith cydweithredol ymhlith sefydliadau na fydden nhw fel arfer yn cydweithio, gan eu galluogi i rannu problemau a mynd i'r afael â heriau sy'n benodol i'r diwydiant. Mae'r manteision economaidd sylweddol hefyd yn bwysig iawn. Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i fynychu Uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru i gael cipolwg ar yr hyn sydd ar y gorwel a gweld sut arall y gall Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fod o gymorth."
Mae MADE Cymru yn fenter a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, drwy law Llywodraeth Cymru, gyda’r ddarpariaeth yn cael ei darparu gan Y Drindod Dewi Sant. Rydym wedi cefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru drwy waith ymchwil a datblygu a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd uwchsgilio mewn Rheoli Arloesi ac Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0. Mae'r fenter wedi denu dros 300 o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru.
Manylion Uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru 2023:
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Medi
Amser: 9:30 am – 3:00 pm
Lleoliad: Adeilad IQ, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Brenin, Abertawe
SA1 8EW
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Medi
Amser: 10:30 am – 2:00 pm
Lleoliad: Canolfan Dechnoleg OpTIC, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy LL17 0JD
I dderbyn yr amserlen gyflawn a'r wybodaeth ar gyfer cofrestru, ewch i https://www.madecymru.co.uk/made-cymru-industry-summit-2023/
Mae MADE Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy law Llywodraeth Cymru. Darperir y ddarpariaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk