Myfyriwr talentog Patrwm Arwyneb a Thecstilau o’r Drindod Dewi Sant yn derbyn swydd ddylunio gyda'r manwerthwr mawr Matalan


31.03.2023

Mae Ellie Jones, sy’n fyfyrwraig ar ei blwyddyn olaf yn astudio rhaglen Meistr Dylunio Patrwm a Thecstilau Integredig yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi derbyn rôl gyffrous gyda'r manwerthwr ffasiwn a nwyddau cartref Prydeinig Matalan.

(Erthygl gan Susan Down, myfyrwraig 2il flwyddyn BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau, Coleg Celf Abertawe.)

Final year student Ellie Jones, who is studying the Integrated Master of Design Surface Pattern and Textiles programme at Swansea College of Art UWTSD, has secured an exciting role with British fashion and homeware retailer Matalan.

Cafodd Ellie ei chyflogi fel dylunydd i Matalan ar ôl arddangos ei gwaith yn arddangosfa fawreddog New Designers yn Llundain, arddangosfa flynyddol o dalent newydd mwyaf arloesol y DU.

Dywedodd Ellie: "Roedd yn gyfle mor werthfawr gan fod fy ngwaith yn cael ei arddangos i nifer fawr o bobl, llawer ohonynt yn gwmnïau mawr yn ein diwydiant dylunio, felly roedd yn wych cael y teimlad o brofi’r diwydiant, a siarad gyda phobl profiadol."

Ar ddiwedd y sioe ddylunio cysylltodd Tîm Creadigol Matalan gyda Ellie, a chynnig gwaith ar leoliad iddi am 4 wythnos yn eu prif swyddfa yn Lerpwl, a gwblhaodd yn haf 2022.

Roedd y fwrsariaeth Datblygu Gyrfa o'r Drindod Dewi Sant wedi ei helpu i dalu am lety a chostau teithio ar gyfer ei interniaeth 4 wythnos, a alluogodd iddi gwblhau'r gwaith a gwblhaodd yn haf 2022.

Dywedodd: "Fy hoff ran o fy mhroses ddylunio yw gwneud delweddau, dwi wrth fy modd yn gweld fy syniadau yn dod yn fyw." Tynnodd ei phatrymau lliwgar a chwareus ar gyfer papurau wal, cynnyrch mewnol, a thecstilau sylw Tîm Dylunio Deunydd Cartref Matalan, ac fe gysyllton nhw â hi ym mis Hydref 2022, i ymgeisio am swydd.

Cafodd Ellie ei chyflogi ar ôl proses ddethol drylwyr a oedd yn cynnwys pecyn cais, adolygiad portffolio, briff dylunio dros gyfnod o wythnos a dau gyfweliad. Dywedodd Ellie:

"Pan gynigiodd Matalan y swydd i mi ym mis Ionawr, roeddwn i'n ecstatig, yn emosiynol, ac yn llawn cyffro. Doeddwn i methu credu fy mod wedi llwyddo i gael swydd i raddedigion cyn i mi raddio. Fe gymerodd hi dipyn o amser i mi gredu hyn!"

Ychwanegodd Ellie: "Roeddwn hefyd yn un o enillwyr cystadleuaeth Contrado X New Designers felly cafodd fy ngwaith ei gynnwys ar stondin Contrado ac mae gen i siop ar-lein bellach ar eu gwefan lle gall eraill brynu fy nghynnyrch printiedig."

Ellie was hired as a designer for Matalan after showcasing her work at the prestigious New Designers exhibition in London, an annual showcase of the UK's most innovative emerging talent.

Meddai Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn Y Drindod Dewi Sant, "Mae gweld Ellie yn derbyn y rôl hon yn Matalan yn foment mor arbennig i'r tîm Patrwm Arwyneb a Thecstilau - rydym yn falch iawn ohoni a'r hyn y mae wedi'i gyflawni. Mae clywed bod Matalan wedi dewis Ellie ar gyfer rôl fel Is- Gynllunydd Deunydd Cartref  oherwydd ei gwaith tecstilau eang a'i gwybodaeth patrwm arwyneb amlddisgyblaethol yn glod i’r rhaglen hon. Dyma'n union beth rydyn ni'n gobeithio gwneud i arfogi ein myfyrwyr, a’u gwneud yn ddylunwyr hynod gyflogadwy ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn dymuno pob lwc i Ellie, ac edrychwn ymlaen at ei chroesawu'n ôl i rannu ei phrofiadau o gyflogaeth yn y dyfodol agos."

Dywedodd Niamh Morgan, myfyrwraig 2il flwyddyn sy'n astudio BA (Anrh) Patrwm Arwyneb a Thecstilau, "Mae wedi bod mor ysbrydoledig i weithio gerllaw Ellie, ac mae sylwi ar yr hyn mae’n gwneud yn y stiwdio neu wrth ei desg wedi bod yn hyfryd. Nid yw’n syndod ei bod wedi cael ei dewis ar gyfer Matalan oherwydd ei rhagoriaeth o fewn ein disgyblaeth. Mae’n esiampl i ni gyd! Mae’n gymaint o anogaeth i ni ei gweld hi'n symud ymlaen i fod yn llwyddiannus fel hyn."

I weld mwy o waith hyfryd Ellie, ewch i'w gwefan: ttps://www.elinorfrances.co.uk/

 

Ellie's colourful and playful patterns for wallpapers, interior products, and textiles drew the attention of Matalan's Homeware Design Team.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071