Myfyrwyr cwrs MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal Y Drindod Dewi Sant yn rhannu ymchwil mewn digwyddiad arddangos
19.06.2023
Mae gweithwyr proffesiynol GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol wedi rhannu enghreifftiau o ymchwil arloesol gan fyfyrwyr, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd ledled y wlad i gefnogi trawsnewid digidol, mewn digwyddiad arddangos yn Adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe.
Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn astudio ar gyfer MSc mewn Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal yn y Brifysgol, sef y cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’r cwrs ôl-raddedig yn gwella sgiliau staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio o fewn tirwedd ddigidol y ddarpariaeth iechyd a gofal.
Datblygwyd y rhaglen mewn cydweithrediad â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) a gweithwyr proffesiynol GIG Cymru. Derbyniodd achrediad proffesiynol yng nghynhadledd flynyddol ddiweddar EFMI, Ffederasiwn Gwybodeg Feddygol Ewrop, gan safonau Gwybodeg Iechyd rhyngwladol EFMI – y cyntaf i wneud hynny yn y DU.
Partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw WIDI. Mae’r bartneriaeth hon yn ysgogydd allweddol ar gyfer gwella’r gweithlu digidol ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn Y Drindod Dewi Sant: “Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio â phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni’n gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’, ac nid yw’r rhaglen feistr hon yn eithriad.
“Rydym wedi galw gweithwyr proffesiynol y diwydiant i mewn i weithio ochr yn ochr â’n timau academaidd a’n partneriaid er mwyn rhoi’r adnoddau i’n myfyrwyr adeiladu ar eu harbenigedd unigryw i feithrin diwylliant o gynhwysiant, gan ddefnyddio eu sgiliau digidol a data i barhau i gyflwyno gwasanaeth iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’n dinasyddion.”
Gwahoddwyd yr Athro Dearing hefyd i gyflwyno anerchiad ym MedInfo 2023 – 19eg gyngres y byd ar wybodeg feddygol ac iechyd – a gyflwynir gan Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia (AIDH) ar ran y Gymdeithas Gwybodeg Feddygol Ryngwladol (IMIA).
Cynhelir y gynhadledd rhwng 8 a 12 Gorffennaf yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yn Sydney, Awstralia. Mae’n dod â miloedd o arweinwyr ac ymarferwyr iechyd digidol ynghyd sydd ar flaen y gad ym maes gofal iechyd i rwydweithio, rhannu, a thynnu sylw at y cyraeddiadau, datblygiadau, ymchwil ac arloesi diweddaraf ym maes iechyd digidol a gwybodeg iechyd, ac fe’i hystyrir yn ddigwyddiad nodedig ar y calendr byd-eang.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk