Myfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Y Drindod Dewi Sant yn arddangos gwaith yn rhan o Brosiect Cyfnewid Creadigol Rhyngwladol
11.05.2023
Mae myfyrwyr y cwrs Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan mewn prosiect cyfnewid creadigol rhyngwladol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Cynllunio a Thechnoleg Amgylcheddol (CEPT) yn Ahmedabad, India.
Prosiect India-Cymru yw ‘Communities of Choice’ a ddyfeisiwyd gan y Chennai Photo Biennale Foundation, India, mewn partneriaeth â Ffotogallery Wales ac a gefnogir trwy’r Rhaglen ‘India-UK Together Season of Culture’ gan y British Council.
Mae’r arddangosfa yn Biennale Kochi yn cynnwys gwaith 10 artist o India a Chymru. Gwahoddwyd myfyrwyr i ymateb i thema benodol trwy destun, ffotograffiaeth, fideo, darlunio, sain, ac unrhyw fformatau eraill o’u dewis.
Gellir gweld y canlyniadau ar wefan y prosiect yma: https://www.communitiesofchoice.org/
Bu pum prifysgol o India a Chymru’n cymryd rhan yn rhan o’r Gymuned Myfyrwyr.
IIT Madras, Coleg Cerddoriaeth a Chelfyddyd Gain RLV - Kochi, cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Abertawe, rhaglen lenyddiaeth o Gymru, a Phrifysgol CEPT.
Gwahoddwyd y Drindod Dewi Sant i gymryd rhan ar ôl i’r Rheolwr Rhaglen, Katherine Clewett, ymweld â Biennale Ffotograffiaeth Kochi India yn ddiweddar.
Meddai Katherine Clewett: “Rhoddwyd tasg i Fyfyrwyr CEPT gyrchu elfen o waith yn ymwneud â’r syniad o ‘ofod’ yng nghyd-destun ‘cymuned’. Rhoddodd hyn ysbrydoliaeth ar ffurf awgrymiadau testun a delweddau i fyfyrwyr cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Abertawe ymateb iddynt trwy eu dewis ddisgyblaeth a oedd yn cynnwys celfyddyd gain, tecstilau, cerameg, dylunio cynnyrch, crefftau, darlunio, dylunio graffig, a ffotograffiaeth.
“Rwy’n hynod falch o ran sut mae’r cydweithrediad wedi gweithio, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Chennai Photo Biennale Foundation a Ffotogallery am ein croesawu ni.
“Roedd yr awgrymiadau a anfonwyd gan CEPT i gipio ymatebion ein myfyrwyr yn gysyniadol ac yn seiliedig ar broses. Fe wnaeth y rhain herio canlyniadau creadigol ein myfyrwyr ni a oedd yn ysgogi meddwl ac wedi’u hystyried yn ofalus. Gweithiodd y ddau set o fyfyrwyr yn unol ag amserlen lem, gan amlygu eu gallu i weithio’n greadigol ac yn broffesiynol.
“Mae’r prosiect hwn wedi gosod cynsail ar gyfer cydweithrediadau rhyngwladol rhwng sefydliadau creadigol ac addysgol i’r dyfodol.”
Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd (y Celfyddydau a’r Cyfryngau) Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn fod ein myfyrwyr Tyst AU Sylfaen Celf a Dylunio wedi gallu cymryd rhan yn y prosiect a’r arddangosfa Ryngwladol hon. Yng Ngholeg Celf Abertawe, rydym yn gwthio ein myfyrwyr i gyflawni’r safonau uchaf ac mae’r arddangosfa Ryngwladol hon yn arddangosiad gwych o’r cyrhaeddiad hwn, rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk