Myfyrwyr Drama Gymhwysol Y Drindod Dewi Sant yn ymgymryd â digwyddiad ‘Platfform’.


19.06.2023

Mae myfyrwyr ar gwrs BA Drama Gymhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan yn eu digwyddiad Platfform’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ddiweddar.

Students from the University of Wales Trinty Saint David’s BA Applied Drama course recently took part in their ‘Platfform’ event at Canolfan S4C Yr Egin.

Dathliad ar ffurf symposiwm yw Platfform sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n graddio i gyflwyno enghreifftiau a gwerthusiadau o’u prosiectau Drama Gymhwysol yn gyhoeddus i gynulleidfa wadd o ymarferwyr proffesiynol o’r diwydiannau creadigol o gefndiroedd mentrau cymdeithasol, addysg, lles a gwaith cymunedol.

Cafodd siaradwyr gwadd o’r diwydiant, y mae sawl un ohonynt wedi cefnogi’r myfyrwyr yn ystod eu rhaglen radd trwy gynnig lleoliad, darlithoedd gwadd a phrofiadau proffesiynol, gyfle i glywed yn uniongyrchol am y prosiectau traethawd hir a’r gwaith ymarferol dylanwadol y mae’r myfyrwyr wedi’u cwblhau yn ystod eu blwyddyn olaf.

Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan S4C Yr Egin, sydd ag enw da cynyddol am ddarparu gwaith cymunedol, ieuenctid a chyfranogol ysbrydoledig – a chefnogi myfyrwyr.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan bwysig o waith paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y celfyddydau cyfranogol, gan ddarparu llwyfan i amlygu eu diddordebau unigol a’u nodau creadigol mewn amgylchedd cefnogol a gwerthfawrogol.

Meddai un o’r myfyrwyr, Faye Brightman:

‘’Roeddwn i wedi cyffroi i gymryd rhan yn nigwyddiad Platfform, oherwydd cefais rannu un o’m hoff brosiectau i mi eu cwblhau yn rhan o fy arfer hyd yn hyn.

“Prosiect ymchwil ansoddol oedd ‘Being Seen’, a ddefnyddiodd dechnegau Drama Gymhwysol ac ysgrifennu creadigol amrywiol i archwilio cynrychiolaeth drawsryweddol mewn teledu a ffilm, a sut mae hyn yn effeithio ar aelodau o’r gymuned draws ac anneuaidd.  

“Digwyddodd y prosiect dros gyfnod o bythefnos, gyda’r cyfranogwyr yn gweithio i drafod enghreifftiau o gynrychiolaeth gadarnhaol a negyddol o bobl draws, sut mae’n teimlo i gael eich cynrychioli o’i gymharu â sut mae’n teimlo i beidio â chael eich cynrychioli, ynghyd â chreu rhestr o’r hyn maen nhw am ei weld gan gynrychiolaeth draws yn y dyfodol.”

Meddai’r Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA Drama Gymhwysol, Jonathan Pugh:

“Gwir gryfder Platfform yw ei ddathliad o daith broffesiynol barhaus ein myfyrwyr. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn symposiwm eleni, rhai yn rhieni a rhai yn weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau a lles, yn gefnogol iawn ac wedi’u cyffroi gan brosiectau’r myfyrwyr.

“Fe wnaeth pob un ohonom ddysgu mwy am y gwir angen am y prosiectau cyfranogol trwy sesiynau holi ac ateb ac mewn gweithdai dan arweiniad ein graddedigion – sydd bellach yn gweithio gyda 'People Speak Up' Sir Gâr. Byddwn yn parhau â’r sgyrsiau pwysig hyn gyda sector y celfyddydau a lles ar ein MA Theatr Gymhwysol newydd flwyddyn nesaf.”

 

 

Students from the University of Wales Trinty Saint David’s BA Applied Drama course recently took part in their ‘Platfform’ event at Canolfan S4C Yr Egin.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk