Myfyrwyr Dylunio Graffig yn ennill tair gwobr aur
28.09.2023
Mae tri o fyfyrwyr Dylunio Graffig Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ennill gwobr aur yng Ngwobrau mawreddog Creative Conscience 2023.
Enillwyd y gwobrau, a gyhoeddwyd ar 19eg Medi, gan Jac Elsey, Summer Davies a Lydia Irving o’r BA (Anrh) Dylunio Graffig am eu gwaith a oedd yn rhan o’u prosiectau trydedd flwyddyn yn y brifysgol.
Mae Creative Conscience yn gymuned greadigol fyd-eang a sefydliad dielw sy’n credu bod meddwl creadigol ac arloesi’n gallu gwneud newid positif. Eu nod yw ymgorffori dulliau meddwl creadigol wedi’u gyrru gan bwrpas mewn sefydliadau, brandiau a sefydliadau ar draws y byd.
Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn rhannu’r gwerthoedd hyn, ac yn gofyn i fyfyrwyr gynnwys pynciau sy’n alinio gyda chenhadaeth Creative Conscience yn eu prosiectau a’u portffolios. Eleni, roedd gan enillwyr waith a oedd yn archwilio themâu allweddol sy’n gysylltiedig â newid positif. Dyma’r manylion:
Enillodd Lydia Irving Wobr Aur yn y Categori Iechyd, Llesiant ac Anabledd am ei chylchgrawn Human Race, sy’n hyrwyddo ffordd o fyw arafach a chefnu ar ‘ras lygod’ afiach bywyd modern.
Meddai Creative Conscience: “Am brosiect gwych, gwnaethom i gyd fwynhau datblygiad y syniad hwn. Mae’n rymus yn weledol ac yn archwilio sut rydym yn defnyddio lle a phwrpas. Mae Lydia wir yn deall grym empathi wrth ddylunio, a chysylltodd [ei gwaith] ag angen i ni gyd arafu a chofleidio ein crwban mewnol.”
Enillodd Summer Davies Wobr Aur yn y Categori Iechyd Meddwl am ei hymgyrch POWER-US, sy’n mynd i’r afael â sylwadau digywilydd a dadleuol rhwng un chwaraewr a’r llall wrth chwarae gemau cyfrifiadurol.
Meddai Creative Conscience: “Roedd hwn yn brosiect didwyll a ddangosodd angen hanfodol yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol a’r gymuned ar-lein. Prosiect dewr sy’n taflu goleuni ar beth a allai gwneud gwahaniaeth enfawr wrth gefnogi iechyd meddwl da. Llwyddodd Summer i ddangos bod angen yn bodoli o fewn y byd ar-lein i newid grym ymosodiadau niweidiol.”
Enillodd Jac Elsey Wobr Aur yn y Categori Cyfiawnder Cymdeithasol am ei waith ar effeithiau alcoholiaeth rieniol ar blant a phobl ifanc. Creodd lyfr o’r enw Ethanol Theory i ddarparu canllaw ar gyfer rheini sy’n straffaglu, plant sy’n cael eu heffeithio ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, gan ffocysu ar ystadegau a gwybodaeth ffeithiol.
Meddai Creative Conscience: “Creodd Jac brosiect personol sy’n cyfuno ymchwil, cyfweliadau a dylunio graffig i greu cyhoeddiad sy’n hysbysu a dangos effaith ddifrifol alcoholiaeth rieniol. Rydym yn falch ofnadwy o ddewrder a chreadigrwydd myfyrwyr, yn arbennig pan fyddant yn cyflwyno syniad personol. Wedi’i ddatblygu’n hyfryd a’i lunio’n hyfryd.”
Meddai Donna Williams, Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA Dylunio Graffig PCYDDS: “Rydym yn eithriadol o falch a hapus i weld ein myfyrwyr yn derbyn gwobrau aur gan Creative Conscience, gan ddangos eu gwaith caled a’u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth trwy ddylunio. Bellach, maent wedi graddio ac yn gweithio yn y diwydiant dylunio graffig, gan gymryd y gwerthoedd hyn allan i’r byd. Mae’r holl staff yn anfon eu llongyfarchiadau llawen.”
Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a Chyfryngau PCYDDS: “Mae hwn yn stori lwyddiant wych. Mae ein myfyrwyr yn cael profiad anhygoel yma yng Ngholeg Celf Abertawe ac yn cael ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio’u sgiliau gyda sefydliadau allanol, gan gynnwys Creative Conscience mawreddog. Daeth ein rhaglen BA Dylunio Graffig yn 1af yng Nghymru ac 11eg yn y DU yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian ar gyfer 2024, a dim ond un o’r rhesymau niferus pam yw hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am BA Dylunio Graffig PCYDDS, cysylltwch â donna.williams@uwtsd.ac.uk neu ewch i’r wefan:
https://www.uwtsd.ac.uk/cy/ba-dylunio-graffig/
Mae gwefannau’r dylunwyr ar gael yma:
Lydia: https://www.lydthedesigner.com
Summer: https://cwlbreeze.xyz
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden BA (Anrh)
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Abertawe
Ffôn: 07384467078
E-bost: ella.staden@uwtsd.ac.uk