Myfyrwyr Gwneud Ffilmiau Antur Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â’r Red Warrior Challenge.


31.07.2023

Mae myfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod wrthi’n brysur yn ffilmio ac yn tynnu lluniau o’r Red Warrior Challenge.

The BA Adventure Filmmaking students from the University of Wales Trinity Saint David have been busy filming and photographing the Red Warrior Challenge.

Ras draws gwlad ‘canicross’ a chwrs rhwystrau yw’r Red Warrior Challenge, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Pen-bre ac sy’n digwydd deirgwaith y flwyddyn. Mae’r digwyddiad yn denu rhedwyr ‘canicross’ proffesiynol yn ogystal â selogion, y rheiny sy’n codi arian dros elusen a’r rhai sy’n chwilio am antur.

Yn ystod y digwyddiad, mae myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am ffilmio a thynnu lluniau o amrywiaeth o weithgareddau megis rhedeg trwy goedwig ac ar y traeth, cŵn, rhwydi cargo, waliau dringo, a chlwydi. Mae’r digwyddiadau’n rhoi cyfle iddynt ymarfer eu sgiliau cynhyrchu arsylwadol ac ymarferol mewn digwyddiad go iawn.

Ar ôl y digwyddiad, mae’r Red Warrior Challenge yn cynnwys gwaith y myfyrwyr ar eu gwefan, gan sicrhau bod eu cyfraniad yn cael ei weld yn gyhoeddus a rhoi profiad portffolio gwerthfawr i ddangos i gyflogwyr yn y dyfodol.

I’r myfyriwr Daniel Phillips:

“Mae gweithio gyda’r Red Warrior Challenge fel myfyriwr a bod yn rhan o dîm i dynnu lluniau a ffilmio’u digwyddiadau yn brofiad amhrisiadwy rwy’n ei fwynhau’n arw bob blwyddyn. Mae’n rhoi cyfle i mi ddatblygu fy mhortffolio, gweithio mewn tîm mwy o faint i gipio cymaint o’r digwyddiad cyfan â phosibl, ac ennill profiad o ddefnyddio offer camera yn greadigol mewn amrywiaeth o amgylchoedd, sefyllfaoedd a senarios.

“Yn fyfyriwr rhan-amser, bûm yn gweithio yn y digwyddiadau hyn am dair blynedd bellach, ac rwy’n gobeithio elwa ar y buddion o weithio yn Nigwyddiadau’r Red Warrior Challenge am y tair blynedd sy’n weddill o’m cwrs.”

 

The BA Adventure Filmmaking students from the University of Wales Trinity Saint David have been busy filming and photographing the Red Warrior Challenge.

Mae’r cydweithrediad hwn wedi bodoli am y ddwy flynedd diwethaf. Meddai’r trefnydd, Graham Ascott:

“Yn ystod y 2 flynedd diwethaf, rydym wedi cydweithio â’r tîm Ffilm a Chyfryngau trwy arweinyddiaeth Brett, ac mae ansawdd y lluniau a’r fideos maen nhw wedi’u cynhyrchu ar gyfer ein digwyddiadau wedi cael argraff fawr arnom, yn ogystal â’u brwdfrydedd a’u parodrwydd i gymryd rhan ar ddiwrnodau’r ras.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn parhau ar gyfer ein digwyddiadau i’r dyfodol.”

Ychwanegodd y Darlithydd Dr Brett Aggersberg:

“Mae gweithio gyda thîm y Red Warrior Challenge ar eu digwyddiadau traws gwlad fel tîm cyfryngau wedi bod yn gyfle gwych i’r myfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur. Mae myfyrwyr fel Daniel Phillips wedi gallu ymarfer eu sgiliau ffotograffiaeth a ffilmio ar ddigwyddiad byw mewn sefyllfaoedd heriol yn cynnwys glaw trwm, tywydd poeth, a lleoliad mawr ac amrywiol fel parc gwledig a thraeth Pen-bre.

“Gobeithiwn barhau i ddatblygu’r berthynas waith i gefnogi’r digwyddiad gwych hwn ac i weld ein myfyrwyr yn cyfrannu at y gymuned wrth ennill profiad proffesiynol gwerthfawr.”

The BA Adventure Filmmaking students from the University of Wales Trinity Saint David have been busy filming and photographing the Red Warrior Challenge.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk