Myfyrwyr, teuluoedd ac aelodau o gymunedau'n dathlu eu taith ddysgu mewn seremonïau ar gampysau'r Drindod Dewi Sant
07.08.2023
Gwnaeth tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wahodd grwpiau sydd wedi cyfrannu at waith allgymorth yn eu hysgolion, colegau a chymunedau y flwyddyn academaidd hon, i seremoni ddathlu yn Abertawe a Chaerfyrddin.
Ar y 18fed a'r 19eg o Orffennaf, daeth 250 o unigolion sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiectau Ymdaith ac Ymgyrraedd yn Ehangach tîm Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant i Ganolfan Dylan Thomas, Abertawe a Theatr Halliwell, Caerfyrddin i dderbyn tystysgrifau i gydnabod eu llwyddiant a'u gwaith caled.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae'r tîm Ehangu Mynediad wedi gweithio gyda dros 5000 o unigolion drwy 550 o ddigwyddiadau gwahanol ar draws de-orllewin Cymru, gan annog a rhoi cyfle i bawb ymgysylltu â dysgu. Mae'r tîm yn gweithio mewn ardaloedd a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn Addysg Uwch gyda'r nod o ledaenu'r neges bod dysgu ar gyfer unrhyw un a phawb.
Yn ystod y digwyddiad a oedd yn arddangos rhywfaint o'u gwaith, camodd nifer o grwpiau i'r llwyfan mewn capiau a gynau a chawsant eu cymeradwyo gan westeion a staff am eu cyflawniad wrth gwblhau eu taith ddysgu eu hunain drwy'r amrywiol brosiectau.
Ymhlith y grwpiau a gafodd eu clodfori am eu cyflawniadau roedd gwirfoddolwyr o Ganolfan Galw Heibio Gymunedol Blaenymaes a ddywedodd:
"Roedd hi'n foment arbennig i gael pawb yn ein cymeradwyo. Mae hyn wedi golygu llawer - cael ein cydnabod am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ac mae hefyd yn helpu i ledaenu'r gair amdano. Yn y ganolfan galw heibio, rydyn ni wir fel un teulu mawr. Roedd yn braf i ni gael ein croesawu a'n cynnwys yn y dathliad hwn, a derbyn diolch am y gwaith a wnawn i'r gymuned."
Dywedodd dysgwr sy'n oedolyn a rhiant disgybl yn Ysgol Gynradd Awel y Môr:
"Am gyfle gwych i blant gael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled. Mae gweld eu rhieni'n dychwelyd i ddysgu ac yn derbyn eu tystysgrifau yn siŵr o'u hysbrydoli. Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn o'm cyflawniadau wrth ddod i'r digwyddiad hwn ac mae wedi fy ysbrydoli i barhau i ddysgu."
Cafodd cyfranogwyr a gwblhaodd raglenni preswyl y Drindod Dewi Sant, cyrsiau dysgu oedolion, gan gynnwys rhieni Dechrau'n Deg Castell-nedd Port Talbot, a nifer o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd fel Ysgol Dihewyd a Grŵp Anogaeth Ysgol Aberdaugleddau hefyd eu dathlu yn y seremoni.
Ar ôl derbyn eu tystysgrifau, fe'u gwahoddwyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creu eitemau celf a chrefft i gofio am y diwrnod, ac i grisialu eu heiliadau arbennig mewn bwth lluniau. Roedd y diwrnod yn ddathliad ffurfiol ond priodol o berthyn a hwyl gyda chynulleidfa fywiog o fabanod a phlant, ac oedolion drwodd i neiniau a theidiau.
Dywedodd Ffion Spooner, Swyddog Ehangu Mynediad a threfnydd y digwyddiad:
"Mae wedi bod yn bleser dod â chynifer o grwpiau o'r ardaloedd a'r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw at ei gilydd mewn un lle i ddathlu eu cyflawniadau yn ogystal â dathlu gwaith y tîm Ehangu Mynediad. O blant bach yr holl ffordd i fyny i oedolion, mae wir wedi dangos yr amrywiaeth o bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac mae wedi bod yn arbennig o braf eu cael gyda’i gilydd ar gampysau'r brifysgol."
Nodyn i'r Golygydd
Mae Ymdaith yn brosiect gan dîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n gweld nifer o ymgysylltiadau â grwpiau penodol dros gyfnod o amser i sicrhau bod perthynas yn cael ei meithrin rhwng cyfranogwyr a’r Brifysgol. Y nod yw helpu grwpiau i ennill amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau.
Strategaeth gan Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysg uwch yw Ymgyrraedd yn Ehangach, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhan o Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach de-orllewin Cymru.