Myfyrwyr yn dod â siop wag yn fyw drwy gelf


31.03.2023

Mae myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant wedi trawsnewid siop wag yng nghanol y ddinas yn ofod arddangos.

Students at UWTSD’s Swansea College of Art transformed an empty shop in the city centre into an exhibition space.

Yn rhan o brosiect diweddar a hwyluswyd gan Urban Foundry, fe wnaeth darlithwyr Celf a Dylunio Sylfaen yn y Drindod Dewi Sant, Jason Cartwright a Becky Williams, wahodd myfyrwyr i arbrofi mewn gofod trwy fideo a thaflunio.

Rhoddodd y prosiect cydweithredol gyfleoedd i’r myfyrwyr archwilio golau a chyfansoddiad, a ffyrdd y gall adnabod gofodau priodol gael effaith enfawr ar arbrofi a datblygu syniadau, trwy ail-lunio cysyniadau cychwynnol mewn cyd-destun pensaernïol amgen.

Meddai Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen yn y Drindod Dewi Sant: “Cafodd y myfyrwyr fwynhad mawr wrth gamu allan o’u hamgylchedd cyfarwydd i archwilio’r ddinaswedd. Mae caniatáu i artistiaid a myfyrwyr feddiannu’r gofodau hyn yn greadigol yn gyfle gwych.”

Meddai’r Caroline Thraves: “Mae’r prosiect hwn yn ffordd arloesol o ddefnyddio uned ac mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn arddangosfa go iawn. Mae cymaint yn digwydd yn lleol o ran y celfyddydau a diwylliant, ac mae’r Brifysgol a’i myfyrwyr yn chwarae rhan fawr yn hyn.

“Rydym bob amser yn croesawu cyfleoedd i gymryd rhan yn y gymuned lle bynnag y gallwn, gan fod gennym y lleoliad canolog perffaith i bobl arddangos eu gwaith i filoedd o ymwelwyr bob dydd.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071