PCYDDS yn cefnogi rhaglen newydd sy’n annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg


21.02.2023

Mae prosiect MADE Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymuno â Safran Seats, Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) a’r Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg (EDT) i gyflwyno’r rhaglen Gwobr Cadetiaid Diwydiannol gyntaf yn ne Cymru.

Routes to STEM Industrial Cadet Award Day Feb 22nd 2023 lineup staff and children

Cydlynwyd y digwyddiad gan Lysgennad Sgiliau Awyrofod Cymru, Vivienne Compton o Industry Learning Solutions Ltd. Bwriad y fenter yw ysbrydoli pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg a STEM, trwy ddarparu bloc tridiau o ddysgu yn ystod hanner tymor. Mae’r rhaglen noddedig yn cynnwys diwrnod â chyflogwr, diwrnod â choleg (a gweithdy), a diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau â phrifysgol.

Mae Safran Seats yn arbenigo mewn seddi Dosbarth Cyntaf a Busnes ar gyfer awyrennau llydan. Yn arweinydd byd ym maes seddi i deithwyr a chriw awyren, mae Safran Seats yn bartner i gwmnïau hedfan a gweithgynhyrchwyr awyrennau a hofrenyddion masnachol er mwyn cyflwyno atebion arloesol a gwerth uchel i gwsmeriaid. Mae eu harbenigedd yn cwmpasu’r gadwyn werth cynnyrch gyfan, o ddylunio i gydosod ac ardystio. Mae miliwn o seddi a wnaed gan y cwmni’n gwasanaethu ledled y byd ar hyn o bryd.

Mae’r rhaglen Gwobr Cadetiaid Diwydiannol yn cynnig cyfle i ddisgyblion ysgol ennill cipolwg ar y sgiliau, y wybodaeth, a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn peirianneg. Meddai Viv Compton, sydd wedi bod yn hyrwyddo’r rhaglen yng Nghymru: “Mae’r rhaglen Gwobr Cadetiaid Diwydiannol yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddeall yn glir y llwybrau gyrfa i beirianneg trwy brentisiaethau a graddau – wrth ennill cydnabyddiaeth ar gyfer eu CVs a’u ceisiadau am swydd i’r dyfodol ar yr un pryd.

“Mae’n helpu pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed ddelweddu beth mae gyrfa mewn peirianneg yn ei olygu mewn gwirionedd – a sut i gyrraedd yno. Rwy’n llawn brwdfrydedd fod y cyfle hwn yn dod i blant ysgol ledled Cymru oherwydd rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol fod rhaglenni Gwobr Cadetiaid Diwydiannol EDT a Llwybrau i STEM yn gweithio. Daeth fy merch yn brentis peirianneg yn 16 oed a dechreuodd ei thaith ar raglen fel hon yn 14 oed. Mae hi’n brentis dylunio lefel 3 yn ei hail flwyddyn erbyn hyn ac yn ystyried gradd-brentisiaeth gyda Safran. Bydd y 30 cyfranogwr a fydd yn ddigon ffodus i gael eu noddi ar y rhaglen Gwobr Cadetiaid Diwydiannol Cymru 2023 hon yn cwrdd â hi yn Safran ar y 23ain o Chwefror!”

Fel rhan o’r rhaglen EDT newydd yn ne Cymru, bydd y cyfranogwyr yn ymweld ag adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe ar 22 Chwefror, lle cânt fwynhau amserlen lawn o weithgareddau, gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai, a thaith o gwmpas y labordy roboteg.

Caiff y cyfranogwyr gyfle hefyd i yrru efelychydd car rasio a darganfod y ffyrdd cyffrous y gellir cyflwyno graddau peirianneg trwy gyfuniad o gynnwys academaidd ac ymarferol. Bydd Uned Gradd-brentisiaethau PCYDDS hefyd ar gael i roi gwybodaeth ac i ateb cwestiynau am brentisiaethau peirianneg.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen tridiau, bydd disgyblion ysgol blwyddyn 10 o dde Cymru’n ennill Gwobr Cadetiaid Diwydiannol, a fydd yn dangos eu hymrwymiad i beirianneg ac yn arddangos y profiad gwerthfawr a gawsant. Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro hefyd yn cynnal diwrnod yn eu Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), gan roi cyfle i ddarpar brentisiaid ddefnyddio’r efelychydd awyren a deall eu hopsiynau gyrfa’n well, a’r llwybrau i’w cyflawni.

Routes to STEM Industrial Cadet Award Day Feb 22nd 2023 robot demo

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Gwobr y Cadetiaid Diwydiannol yn ffordd wych o ddod ag arfer peirianneg o’r byd go iawn i fyfyrwyr a darparu profiad uniongyrchol o’r hyn sydd ei angen ar gyfer gyrfa o fewn STEM. Mae sicrhau bod gennym ni ddysgwyr medrus yn y meysydd hyn yn hanfodol i’n rhagolygon economaidd yma yng Nghymru – a hefyd i wneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.”

Meddai Ellen Pugsley, Arweinydd Rhaglenni Unigol yn yr Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg: "Mae’n wirioneddol wefreiddiol pan fydd gweithgynhyrchydd, coleg a phrifysgol o Gymru’n dod at ei gilydd i greu cyfle mor arbennig. Bydd y cyfranogwyr ifanc yn cael profiad uniongyrchol o’r technolegau arloesol sy’n flaenllaw ym maes peirianneg.

“Yn ogystal, mae’n fanteisiol iawn iddynt gael cipolwg ar y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael iddynt, fel gradd-brentisiaethau. Nid yw ysgolion fel arfer yn cynnig y profiad hwn, a gall newid bywyd.”

Meddai Abi Summerfield, Uwch Ddarlithydd, Peirianneg Modurol a Chwaraeon Modur: “Mae Ysgol Peirianneg PCYDDS yn edrych ymlaen at groesawu’r dysgwyr ifanc hyn i’n campws pwrpasol ddydd Mercher. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ennyn diddordeb pobl ifanc mewn STEM yn gynnar yn ystod eu haddysg fel y gallwn eu denu i yrfa mewn Peirianneg. Mae gennym hanes hir o ffurfio graddedigion llwyddiannus iawn yn yr adran, trwy gyflwyno hanfodion peirianneg draddodiadol trwy raglenni cyffrous fel y gwelir yn ein cyrsiau peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, Chwaraeon Modur a Beiciau Modur.”

Meddai Lisa Lucas, Pennaeth MADE Cymru, PCYDDS: “Mae’n bleser mawr inni gefnogi digwyddiad y Wobr Cadetiaid Diwydiannol. Mae ein rhaglen MADE Cymru’n ymroddedig i uwchsgilio gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, gan yrru twf economaidd yn y sector drwy hynny. Gan fod peirianneg a gweithgynhyrchu’n gydrannau canolog o economi Cymru, rydym yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n ceisio annog a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ifanc i’r diwydiannau ffyniannus hyn. Mae ein tîm wedi ymrwymo i ehangu’r dewisiadau gyrfa hyn a hybu eu ffyniant i’r eithaf.”

Routes to STEM Industrial Cadet Award Day Feb 22nd 2023 mini race car making

Nodyn i'r Golygydd

Rhaglen a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru yw MADE Cymru, ac fe’i cyflenwir gan PCYDDS. Mae wedi’i chynllunio i uwchsgilio gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, gan yrru twf economaidd yn y sector.

Elusen yn y DU yw’r Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg sy’n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o yrfaoedd STEM ac mae’n gweithio gyda byd diwydiant, prifysgolion, a cholegau ledled y DU.  Maen nhw’n cynnig Gwobr Efydd, Arian ac Aur y Cadetiaid Diwydiannol.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078