PCYDDS yn cynnal Cynhadledd Hawliau Dynol, Llywodraethu Da a Chyfiawnder Cymdeithasol
25.04.2023
Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Liliana Salamanca, gwyddonydd gwleidyddol sydd â phrofiad o hawliau dynol, IHL, Gwrthdaro Arfog yn Columbia ac Adeiladu Heddwch, i’w Chynhadledd Hawliau Dynol, Llywodraethu Da a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei champws yn Abertawe.
Daeth y digwyddiad, a agorwyd gan Ddirprwy Is-ganghellor Y Drindod Dewi Sant, Iestyn Davies, â chyfarwyddwyr mentrau Sefydliadau Ymchwil y Drindod Dewi Sant/UNESCO (Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch; Sefydliad Harmoni; Sefydliad Dyfodol Byd-eang a Chanolfan BRIDGES UNESCO) ynghyd i drafod cydweithio ymchwil. Archwiliodd y cyfarfod arferion a mecanweithiau i feithrin iachâd ar y cyd mewn sefyllfaoedd ôl-wrthdaro; gyda gwaith Comisiwn Gwirionedd Colombia a’r gwaith a wnaed ym mhrosiect UNESCO PCYDDS “Grymuso Iachau Hiliol dan Arweiniad Pobl Ifanc ar gyfer Trawsnewid Cymunedol ac Ecwiti Systemig,” dan arweiniad Scherto Gill yn ganolog iddo.
Y nod oedd cyfoethogi’r ffocws ar lywodraethu a hawliau dynol trwy safbwyntiau dyniaethau sy’n canolbwyntio ar les anifeiliaid, y berthynas o gytgord a lles neu rôl ysbrydolrwydd wrth chwilio am les yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Thomas Jansen, Cyfarwyddwr Academaidd y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (dros dro): “Tynnodd siaradwyr y gynhadledd sylw at y rôl bwysig y mae cydnabod profiadau dioddefwyr, deialog rhwng grwpiau o ddioddefwyr a chyflawnwyr, ac adeiladu cof a rennir yng ngwaith y Comisiwn Gwirionedd a thros gymod yng Ngholombia.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071