PCYDDS yn noddi’r Parth Creadigol a Digidol yng Nghynhadledd Dinas Abertawe eleni


25.01.2023

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn noddi’r Parth Creadigol a Digidol yng Nghynhadledd Dinas Abertawe eleni. Mae’r digwyddiad blynyddol yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is sponsoring the Creative and Digital Zone at this year's Swansea City Conference. The annual event returns to Swansea Arena on Wednesday March 29.

Mae’r gynhadledd, a lansiwyd yn 2019, yn gyfle mawr i fanwerthwyr, busnesau rhanbarthol, prosiectau cymunedol a sefydliadau dielw yn Abertawe i godi eu proffil a gwneud cysylltiadau. Denodd digwyddiad y llynedd – y cyntaf i’w gynnal yn Arena Abertawe – dros 120 o arddangoswyr a thros 2500 o gynadleddwyr.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerdydd: “Fel un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU o ran datblygu'r sgiliau lefel uchel sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiannau digidol a chreadigol,  mae'r Drindod Dewi Sant yn hynod falch o noddi'r  Parth Creadigol a Digidol yng Nghynhadledd Dinas Abertawe eleni.”

Mae gwahoddiad i fusnesau, ymgyrchwyr, cyflogwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Abertawe, i fynychu'r digwyddiad eleni, a fydd yn cynnwys diweddariadau a chyhoeddiadau ar brosiectau cyfredol ac yn y dyfodol i wella'r ddinas, ynghyd â chyfle i glywed gan yr arweinwyr meddwl a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i lunio dyfodol Abertawe.

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal gan 4theRegion, cynghrair o aelodau sy'n gweithio i sicrhau newid cadarnhaol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4theRegion: “Rydym yn falch iawn o lansio’r Gynhadledd Canol Dinas eleni, sy’n argoeli bod y mwyaf a’r gorau eto. Y llynedd gwelwyd bod Arena newydd Abertawe yn lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad, felly rydym yn falch o ddychwelyd yno am yr ail flwyddyn.

“Bydd y Gynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas yn dod â phawb sy’n uchelgeisiol am ddyfodol Abertawe, o entrepreneuriaid i bobl greadigol, gweledyddion ac ymgyrchwyr, at ei gilydd. Mae’n gyfle i wneud cysylltiadau, dathlu cryfderau ac asedau niferus Abertawe, a helpu llunio’r weledigaeth am ddyfodol ffyniannus a llwyddiannus.”

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae’r digwyddiad hwn yn dathlu popeth sy’n dda am Abertawe, o’n busnesau lleol gwych i’r prosiectau mawr sy’n trawsnewid y ddinas.

“Mae’r cyfuniad o’n busnesau ac entrepreneuriaid ynghyd â’r adfywio sydd naill ai wedi’i gwblhau, ar y gweill neu yn yr arfaeth, yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i daro’n ôl yn sgil effaith economaidd y pandemig.

“Golyga buddsoddi mawr gan y sectorau cyhoeddus a phreifat fod datblygiadau eisoes ar waith gan gynnwys 71/72 Ffordd y Brenin, adeilad Theatr y Palas, Neuadd Albert, yr hwb cymunedol yn yr hen BHS, yr adeilad Bioffilig a llawer mwy, gan adeiladu ar Arena Abertawe a phrosiectau eraill sydd eisoes wedi’u cyflawni.

“Mae prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys gwelliannau mawr i Gerddi Sgwâr y Castell a thrawsnewid lleoliadau megis y Ganolfan Ddinesig a hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

“Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023 yn galluogi busnesau a sefydliadau i rwydweithio, codi eu proffil a darganfod rhagor am y cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a fydd yn darparu dinas sy’n cyfuno cyfleusterau o’r radd flaenaf gyda swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i fodloni dyheadau pawb.”

Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.4theregion.org.uk/swansea-city-centre-conference-2023/

Gallwch gadw lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/507366716507

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071