Pennaeth Cyfathrebu CBDC a chyn ddarlledwr y BBC yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremoni raddio Dosbarth 2023 Y Drindod Dewi Sant
04.07.2023
Heddiw (4 Gorffennaf), mae Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a chyn-ddarlledwr y BBC, Ian Gwyn Hughes, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio haf y Brifysgol.
Yn y seremoni heddiw, fe’i hanrhydeddwyd am ei ymdrechion i wneud y Gymraeg yn rhan ganolog o waith Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac am roi llwyfan rhyngwladol i’r Gymraeg a’i diwylliant yn ystod Pencampwriaethau Ewropeaidd diweddar a Chwpan y Byd y llynedd. Mae hefyd wedi bod yn flaengar wrth hyrwyddo pêl-droed mewn cymunedau lleol ar draws y wlad.
Yn cyflwyno Ian Gwyn Hughes i’r gynulleidfa roedd yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor y brifysgol. Dywedodd:
“Heddiw, rydym yn cydnabod ei ddylanwad pellgyrhaeddol ac eang oddi ar y maes ac am ei arweiniad digyffelyb ar newid diwylliannol ac ymgysylltiad cymunedol. A hyn trwy ei rôl fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Nid oes rhaid ichi fod yn hen iawn i sylweddoli pa mor wahanol yw’r berthynas rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei chenedl ehangach a’i hiaith yn awr o gymharu â dim ond rhyw ddegawd yn ôl.
Ni ellir tanddatgan y trawsnewidiad ym mrand cenedlaethol pêl-droed Cymru. Do, fe lwyddon nhw ar y cae a chyrraedd uchelfannau na allai’r rhai ohonom sy’n cofio nosweithiau llwm yn gwylio tîm Bobby Gould ym Mharc Ninian, ond mae yna deimlad cyffredinol bod yr hyn ddigwyddodd oddi ar y cae yn ganlyniad i waith diflino, dewr a diplomyddol Ian.
Yn y traddodiad hwn yr anrhydeddwn Ian heddiw, am ei gyfraniad dihafal yn dod â dealltwriaeth o Gymru, ei diwylliant a’i hiaith i bob cornel o’r wlad hon a thu hwnt trwy ei dîm pêl-droed a’i chefnogwyr gwych. Fe allech chi ddweud iddo ddod â'r wal goch i ymwybyddiaeth y byd. Mae'n wal sy'n sefyll dros angerdd, balchder ac argyhoeddiad. Balchder cenedlaethol sy'n ymledu o'r stondinau a'r sgriniau i ysbrydoli pob un ohonom ni a'n tîm i gredu.”
Ganed Ian Gwyn Hughes ym Mae Colwyn ac mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Hen Golwyn. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl gweithio’n flaenorol fel sylwebydd a chyflwynydd chwaraeon Teledu a Radio yn y BBC, gan gynnwys gweithio ar Match of the Day, yn 2011 ymunodd Ian â CBDC a sefydlu eu hadran gyfathrebu.
Wrth dderbyn y wobr, ychwanegodd Ian Gwyn Hughes:
“Braint ac anrhydedd yw derbyn y gymrodoriaeth hon heddiw. Rhaid i mi ddiolch i gymaint o bobl - mae gen i dîm mor wych yn gweithio gyda mi.
"Hoffwn ddiolch i nifer o bobl gan gynnwys nifer o bobl yn y BBC - Onllwyn Brace, Gareth Davies, Arthur Emyr, Nigel Walker, a oedd i gyd yn credu ynof, yn ymddiried ynof ac wedi rhoi'r cyfle i mi. Yn CBDC, hoffwn ddiolch i Jonathan Ford, y rheolwyr sydd wedi ymddiried ynof - Gary Speed, Chris Coleman, Ryan Giggs a Rob Page a hoffwn ddiolch i Noel Mooney. Hefyd, i'r teulu - fy ngwraig, Beth am ei chefnogaeth oherwydd mae natur y gwaith yn golygu eich bod i ffwrdd o adref dipyn. Yna’r plant Lowri a Daniel a’r ddwy wyres fach, Ffion a Cadi, sy'n fy nghadw'n ifanc ac actif.
"Os gallaf gynnig unrhyw gyngor i chi - pan oeddwn eich oedran chi, nid oeddwn yn siŵr beth oeddwn i'n mynd i'w wneud. Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau mynd i fyd chwaraeon ond erbyn hynny sylweddolais na fyddai Bill Shankly byth yn cynnig cyfle i mi chwarae dros Lerpwl.
"Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych - peidiwch â bod ofn methu. Roedd Chris Coleman bob amser yn dweud ‘peidiwch â bod ofn methu’. Os ydych yn ymgeisio am swyddi, dyfalbarhewch a chredwch ynoch chi'ch hun. Daliwch ati. Os oes gennych chi dalent, nid yw bob amser yn ddigon, rhaid i chi weithio'n galed hefyd ac wrth gwrs ar y daith honno, mae angen ychydig o lwc hefyd."
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076