Prentis Gradd mewn Peirianneg yn y Drindod Dewi Sant yn dweud bod y rhaglen wedi ei helpu i gyflawni twf proffesiynol a phersonol
10.08.2023
Dyfarnwyd gradd anrhydedd ddosbarth cyntaf i Amy Evans mewn BEng Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch yn yr haf, gan nodi cam pwysig arall ar ei thaith ddysgu proffesiynol.
A hithau’n Beiriannydd Prosiect gyda Zimmer Biomet, dywedodd Amy ei bod wedi’i denu at y Rhaglen o Radd-brentisiaethau yn y Drindod Dewi Sant am ei bod yn cyd-fynd â’i hamcanion o ran ceisio symud ei gyrfa yn ei blaen.
Meddai: “Ar ôl gweithio fel peiriannydd am saith mlynedd, roeddwn i eisiau ffurfioli fy ngwybodaeth a’m sgiliau drwy ddilyn gradd mewn peirianneg. Roeddwn i’n gwybod, er mwyn symud fy ngyrfa yn ei blaen, y byddai angen rhaglen gytbwys arnaf a oedd yn mynd y tu hwnt i wybodaeth dechnegol yn unig. Tynnodd rhaglen y radd-brentisiaeth Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch fy sylw ar unwaith am ei bod yn cyd-fynd yn berffaith â’m hamcanion.
“Yr hyn a’m denodd i fwyaf oedd ei dull cynhwysfawr. Roedd yn cwmpasu nid yn unig bynciau peirianneg ond hefyd rheolaeth, rheoli prosiectau, ansawdd, a busnes. Roedd hyn yn golygu y byddwn yn ennill set amrywiol o sgiliau, gan fy ngwneud yn beiriannydd hyblyg oedd yn barod am rolau gwahanol. P’un a oeddwn yn dymuno dilyn swyddi peirianneg pellach, symud i faes rheoli, neu archwilio sectorau eraill, byddai’r rhaglen hon yn rhoi sylfaen gadarn i mi.”
Agwedd arall a oedd yn apelio, yn ôl Amy, oedd yr hyblygrwydd i weithio’n amser llawn tra oedd yn astudio.
“Roedd hyn yn golygu fy mod yn gallu cymhwyso’r hyn y byddwn yn ei ddysgu mewn sefyllfaoedd go iawn. Roedd yn pontio’r bwlch rhwng theori ac arfer, gan roi profiad ymarferol gwerthfawr i mi a chaniatáu i mi dyfu’n broffesiynol ac yn academaidd,” ychwanegodd.
Dywedodd Amy fod y rhaglen brentisiaeth wedi rhoi sgiliau ymarferol a gwybodaeth iddi y mae hi’n gallu eu cymhwyso i’w gwaith yn uniongyrchol.
Meddai: “Rwyf wedi llwyddo i weithredu gwelliannau proses, gwella technegau rheoli prosiectau, a chyfrannu at arferion gwaith mwy effeithlon. Mae’r cyfuniad o ddysgu damcaniaethol a phrofiad ymarferol wedi fy mharatoi i ragori fel peiriannydd prosiect, gan gael effaith ar fy mherfformiad yn fy swydd ar unwaith.”
Mae Amy yn awyddus i annog pobl eraill mewn sefyllfa debyg i wneud cais am y rhaglen ac mae ganddi’r cyngor canlynol i unrhyw un sy’n ansicr ynghylch cymryd y cam cyntaf.
“Siaradwch â chydweithwyr yn eich gweithle a manteisio ar eu gwybodaeth a’u harweiniad. Maen nhw’n gallu cynnig cipolwg ymarferol sy’n ategu eich hyfforddiant ffurfiol. Hefyd, mae eich darlithwyr, mentoriaid a Swyddogion Cyswllt Prentisiaid yn cynnig cymorth gwych. Maen nhw yno i’ch helpu ar eich taith ddysgu a rhoi arweiniad pryd bynnag y mae ei angen. Bydd sgiliau trefnu a rheoli amser yn eich helpu i gydbwyso’ch gwaith a’ch astudio’n effeithiol. Mae rhwydweithio gyda myfyrwyr eraill mewn sefydliadau eraill hefyd yn gallu bod yn fuddiol, am ei fod yn agor drysau i gydweithio a chyfleoedd yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk