Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gynnal Ffair Yrfaoedd ar gampws Caerfyrddin ar gyfer myfyrwyr a chyn - fyfyrwyr
11.01.2023
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ffair Yrfaoedd ar gampws Caerfyrddin ddydd Mawrth, 24 Ionawr, lle bydd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr posibl a chlywed mwy am y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.
Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, bydd ystod eang o gyflogwyr, sefydliadau a darparwyr cyfleoedd gwirfoddoli yn bresennol gan gynnwys cynghorau lleol, asiantaethau addysgu, y GIG, Admiral a llawer mwy.
Bydd Ymgynghorwyr Gyrfa o'r Brifysgol hefyd wrth law i gynnig cymorth. Mae’r tîm gyrfaoedd yn darparu cyngor ac arweiniad gyrfa un i un i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, cymorth gyda CV, ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliad a chyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith.
Dywedodd Jane Bellis, Cynghorydd Gyrfaoedd Gweithredol: “Rydym yn hapus iawn i gynnal digwyddiad Gyrfaoedd mewn person ar gampws Caerfyrddin gyda chymaint o gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol ar ôl seibiant hir oherwydd y pandemig. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o drefnu, yn enwedig y staff Gyrfaoedd a’r cysylltiadau academaidd sydd wedi cefnogi’r digwyddiad. Rydym yn annog pob myfyriwr a chyn-fyfyrwyr i wneud y gorau o’r cyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a chael gwybod am yr hyn y gallwn ei gynnig fel gwasanaeth.”
Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn Y Drindod Dewi Sant yn falch o dynnu sylw at y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i gyn-fyfyrwyr waeth beth fo’u blwyddyn raddio a’u bod ar gael i raddedigion diweddar, ac i’r rhai hynny a raddiodd flynyddoedd lawer yn ôl ac sy’n edrych am newid gyrfa.
Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin (SA31 3EP).
Os hoffai unrhyw un gael unrhyw gefnogaeth i baratoi ar gyfer y ffair, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd drwy gyrfaoedd@pcydds.ac.uk
Bydd cludiant o gampysau eraill hefyd ar gael. Eto, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@pcydds.ac.uk i archebu eich lle.
Dysgwch fwy am sut y gall Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y brifysgol helpu cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr gyda phob agwedd o ddatblygu eich gyrfa: Gwasanaeth Gyrfaoedd | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076