Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio Ystafell Drochi newydd ar gampws Caerfyrddin


03.10.2023

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio ystafell drochi arloesol, o’r radd flaenaf ar ei champws yng Nghaerfyrddin, gan ddarparu gofodau dysgu blaenllaw i fyfyrwyr a phartneriaid i chwyldroi’r profiad addysgol.

UWTSD launches new Immersive Room at Carmarthen campus

Gan weithio gyda phartner clyweled, IDNS, ac a ariennir yn rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae’r mannau dysgu newydd cyntaf o’u math yng Nghymru wedi’u lleoli ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe’r Brifysgol. Mae'r Ystafelloedd Trochi yn defnyddio meddalwedd Igloo Vision a'r sgriniau Samsung LED diweddaraf ar draws tair wal gan greu profiad defnyddiwr rhithiol llawn a realiti estynedig.

Mynychwyd lansiad Caerfyrddin yn adeilad Addysgu a Dysgu’r Brifysgol gan gynrychiolwyr o Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, cynrychiolwyr diwydiant yn ogystal â staff y Brifysgol.

Mae’r prosiectau ystafelloedd trochi arloesol o’r radd flaenaf eisoes wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prosiect Addysgol y Flwyddyn Cylchgrawn AV. Wrth lansio’r ystafell, dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor PCYDDS: “Mae’r Brifysgol wedi gwneud buddsoddiad sylweddol yn ei seilwaith digidol i greu’r profiad dysgu gorau i’n myfyrwyr ac i sicrhau bod y cyfleusterau a gynigiwn yn adlewyrchu arfer gorau’r diwydiant.

“Y dechnoleg hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru ac rwy’n falch iawn y bydd yn cael ei defnyddio i wella profiad myfyrwyr ond hefyd y bydd o fudd i’n partneriaid o fewn addysg, busnes a’r gymuned”.

UWTSD launches new Immersive Room at Carmarthen campus

Meddai Laura Mills ar ran Igloo: “Mae Igloo Vision yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, IDNS a Samsung i ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru. Gan ddefnyddio meddalwedd trochi Igloo Vision a thechnoleg LED diweddaraf Samsung, bydd yr ystafelloedd yn cynnig profiadau diddorol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

“Mae camu i mewn i fan trochi Igloo yn debyg i gamu i mewn i benset VR enfawr - ond eich bod yn gallu cael grwpiau cyfan i mewn. Mae Igloo yn dylunio a datblygu’r dechnoleg sy’n gallu gwneud unrhyw fan yn un trochi. Gellir rhannu unrhyw fath o gynnwys digidol, gan gynnwys realiti rhithwir trochi, fideos a delweddau 360° ac offer Office bob-dydd eu rhannu gyda grwpiau cyfan yn un o’r mannau hyn, felly mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfleoedd diddiwedd o ran yr hyn y gall ei wneud gyda’i Hystafell Drochol. “

Meddai Vicky Jennings, Ymgynghorydd Technoleg yn IDNS: “Mae IDNS yn falch o ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan ddarparu’r fan trochi 18 metr trwy ddefnyddio’r dechnoleg LED Samsung ddiweddaraf, bydd profiad gweledol a synhwyraidd yn dod yn fyw i ymwelwyr, trwy gynlluniau gweledol heb eu hail a manylion eithriadol.

“Mae’r datblygiad arloesol hwn yn nodi oes newydd o ran cydweithredu ac ymgysylltu yn y brifysgol ac mae’n dyst i’w hymagwedd flaengar at ddefnyddio technolegau digidol sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu.”

Cipolwg:
1. 18.2m x 2.2m; LED picsel 1.5mm
2. cydraniad 12k, 12160 x 1440
3. 76 o gabinetau unigol
4. Meddalwedd Igloo - meddalwedd Ice Core Engine
5. 360 o fideos a delweddau, apiau fel YT360, Unreal, Matterport, Revisto (BIM) a mapiau Google
6. 7.1 system amgylchynu sain
7. Gosodiad blaen tŷ – fflip Samsung 55”, camerâu 2 x 120 gradd a mics ystafell
8. Cyflwyno cynnwys hyblyg (clustffonau VR ac ati)

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael cipolwg ar sut olwg fydd ar yr ystafelloedd, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/immersive/cy/  Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn ei brofi!

UWTSD launches new Immersive Room at Carmarthen campus

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076