Prosiect ymchwil ‘Camau i’r Dyfodol’ yn cyhoeddi Adroddiad Cam 1
10.05.2023
Mae prosiect Camau i’r Dyfodol, heddiw (10 Mai 2023), wedi cyhoeddi ei adroddiad ymchwil Cam 1.
Dr Sonny Singh, Prif Ymchwilydd PCYDDS, yn siarad yng ngweithdy 'Camau i'r Dyfodol' a gynhaliwyd gan y Drindod Dewi Sant yn gynharach eleni.
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow (UofG), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n gweithio gyda gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru i gefnogi diwygio’r cwricwlwm ymhellach.
Mae adroddiad Cam 1 yn archwilio dealltwriaeth o ddilyniant a chyd-ddatblygu yn y system ac yn adolygu tystiolaeth a gyhoeddwyd i ddatblygu camau’r prosiect yn y dyfodol. Defnyddiwyd dulliau ymchwilio amrywiol yn cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, gan ddarparu canfyddiadau allweddol a mewnwelediadau ynghylch lle mae gweithwyr addysg proffesiynol yn y broses newid, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae’r adroddiad yn datblygu ymagwedd y prosiect tuag at gyd-ddatblygu ac adolygu tystiolaeth am y perthnasoedd rhwng y cwricwlwm, asesu, addysgeg, a dilyniant.
Ymgymerodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant â gwaith maes a helpodd i ddatblygu’r ddealltwriaeth hon, gan adeiladu ar y berthynas a feithrinwyd eisoes gan yr Athrofa a’i hysgolion partneriaeth.
Dywedodd Dr Sonny Singh (Prif Ymchwilydd PCYDDS):
“Mae prosiect ymchwil Camau i’r Dyfodol wedi’i gynllunio i gefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o ddilyniant mewn dysgu. Mae ein hadroddiad cam 1 yn amlygu’r angen i alinio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg, yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant a phwrpas wrth hyrwyddo cydlyniad a chefnogi'r system addysg drwyddi draw.
Mae’n bleser gan y brifysgol barhau â’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Glasgow ar y prosiect pwysig hwn. Y nod yw cefnogi system addysg Cymru i wireddu diwygio cwricwlaidd cynaliadwy."
Meddai Dr David Morrison-Love (Prif Ymchwilydd, Prifysgol Glasgow):
“Rwy’n meddwl bod adroddiad Cam 1 wedi dangos arwyddocâd y prosesau gwneud ystyr sydd ynghlwm wrth unrhyw brif newid i’r cwricwlwm. I ni, mae wedi tanlinellu pwysigrwydd nid yn unig o ddarparu amser i fyfyrio’n ddwys am Gwricwlwm i Gymru, ond am ofod i allu meddwl mewn gwahanol ffyrdd am ddilyniant a gwireddu’r cwricwlwm.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y prosiect sy’n helpu Llywodraeth Cymru i ddeall rhai o’r heriau sylfaenol o gyflwyno ein cwricwlwm arloesol yng Nghymru, ac yn helpu i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth i barhau i gefnogi ei gyflwyno, yn enwedig o ran dilyniant ac asesu.”
Mae canfyddiadau allweddol adroddiad Cam 1 yn cynnwys awydd ymhlith partneriaid addysgol i rannu dealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu, heriau i weithgareddau cyd-ddatblygu, a chwestiynau am sut i newid tuag at ddiwylliant asesu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn awgrymu bod cynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru yn gysyniad ehangach na’r dilyniannau dysgu a geir yn y rhan fwyaf o’r llenyddiaeth ymchwil, ac nad yw’n glir a oes cysondeb mewn dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd ar draws y system. Roedd canfyddiadau’r adroddiad, gan gynnwys dealltwriaethau a ddatblygwyd o’r llenyddiaeth a’r heriau, dulliau, a goblygiadau a nodwyd, yn rhan annatod o sefydlu gweithgarwch cyd-ddatblygu yng Ngham 2 y prosiect. Gwnaed canfyddiadau ac ystyriaethau allweddol hefyd ar gyfer y system ehangach.
Wrth i brosiect Camau i’r Dyfodol symud yn ei flaen, mae wedi ymrwymo i gyd-ddatblygu parhaus gyda phartneriaid addysgol i gefnogi datblygiad dealltwriaeth ymarferol o gynnydd mewn dysgu fel rhan o ddiwygio cwricwlaidd uchelgeisiol Cymru. Bydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i sicrhau bod y cwricwlwm yn esblygu ac yn gwella’n barhaus, mewn ymateb i’r newid mewn anghenion a gofynion dysgwyr.
Am ragor o wybodaeth am brosiect Camau i’r Dyfodol, ewch i:
https://www.uwtsd.ac.uk/cy/camau-ir-dyfodol/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076