Stori Llwyddiant ar gyfer Gweithiwr Dur
22.08.2023
Gweithiodd Jamie Waters yng ngweithfeydd dur Port Talbot am 26 blynedd, gan ddechrau fel prentis yn 1996 a gweithio’i ffordd i fyny yn raddol.
Fodd bynnag, pan fethodd gyfle i gael dyrchafiad yn ei weithle rai blynyddol nol, penderfynodd Jamie ddilyn llwybr Addysg Uwch a dechreuodd Brentisiaeth BEng mewn Gwyddor Deunyddiau yn PCYDDS i wella ei gyfleoedd i lwyddo.
“Roeddwn yn gobeithio y byddai cwrs yn rhoi hwb i mi i gael cyfleoedd am ddyrchafiad i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach,” meddai.
Ac fe weithiodd. Wrth astudio, cafodd Jamie ei ddyrchafu o swydd Arweinydd Tîm i Reolwr yn labordai Port Talbot.
Cyrhaeddodd Covid wrth i Jamie orffen ei gwrs, ac wrth ffeindio’i hun adref llawer o’r amser, teimlai y gallai ‘dreulio ei amser yn well wrth gofrestru ar radd Meistr”.
“Ond gall bod â theulu gyda dau o blant ifanc olygu bod amser yn brin a gwerthfawr!” meddai. Dyma pam gwnaeth rhaglenni hyblyg PCYDDS apelio gymaint, gan ganiatáu iddo astudio MSc Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth ochr yn ochr â gwaith llawn amser.
Ar ôl cwblhau prosiect a archwiliodd i sut y gall biomas gymryd lle tanwydd ffosil yn y diwydiant dur i leihau allyriadau CO2, mae Jamie wedi graddio a dod o hyd i’r hyder i newid swydd:
“Rhoddodd gwneud y radd Meistr y dewrder i mi i adael fy rôl yn y diwydiant gwneud dur ar ôl 26 blynedd a rhoi cynnig ar yrfa newydd fel Peiriannydd Proses mewn diwydiant gwbl newydd.
“Rwyf wedi dysgu llawer ar y ddau gwrs yn PCYDDS. Gwnaethant gyflenwi fy mhrofiad proffesiynol, codi fy mhroffil a’m gwneud yn fwy cyflogadwy, sydd wedi talu ar ei ganfed!”
Yn dad, yn weithiwr llawn amser ac yn fyfyriwr rhan amser, pwysleisiodd Jamie fod “rheoli amser yn allweddol”. I fyfyrwyr eraill, cynigiodd y cyngor: “Cadwch reolaeth ar y llwyth gwaith a dal ati i’w wneud fesul dipyn. Defnyddiwch eich amser rhydd yn ddoeth, a gwnewch gynlluniau cadarn.”
Yna, daw popeth yn bosibl.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078