Teaching Intellectual Property Law: Strategy and Management


29.06.2023

Wrth i ddathliadau’r Drindod Dewi Sant barhau ar ôl cael ei choroni’n Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn 2022-3 gan Triple E, mae un o’n dulliau ar gyfer grymuso ein dysgwyr i lwyddo yn cael ei ddathlu trwy gyhoeddi pennod o lyfr yn ‘Teaching Intellectual Property Law: Strategy and Management’ Edward Elgar, sydd newydd ei lansio yn Llundain.   

Kathryn Penaluna and Editor Ruth Soetendorp celebrate at the book launch

Yn seiliedig ar ddulliau unigryw’r Drindod Dewi Sant o ddysgu trwy fod yn fwy chwilfrydig am bwnc, disgrifia’r bennod sut y gellir annog myfyrwyr nad ydynt yn astudio’r gyfraith i edrych ar wrthrychau bob dydd o’r newydd, ar sail y rhagdybiaeth ganlynol: oni bai am ddealltwriaeth o Eiddo Deallusol, mae’n debyg na fyddent wedi cyrraedd y farchnad.   

Fe wnaeth yr Athro Cyswllt Dr Kath Penaluna, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol, gyd-ysgrifennu pennod o’r enw Developing Twenty – First Century Skills for Creativity and Innovation: The case of the entrepreneurial educator in raising learner awareness of Intellectual Property ar y cyd â’r Athro Emeritws Andy Penaluna. Arddangosa’r bennod eu harferion ar gyfer codi ymwybyddiaeth o Eiddo Deallusol fel modd o rymuso pob dysgwr, nid yn unig y rheiny yn ysgol y gyfraith. Mae cyflogwyr angen i’w gweithwyr fod yn addysgedig i barchu hawliau eraill, yn ogystal ag i adnabod cyfleoedd ar gyfer busnes i’r dyfodol, ac mae angen i entrepreneuriaid osod eu syniadau newydd mewn ffordd sy’n ddiogel o ran Eiddo Deallusol er mwyn llwyddo.

Wedi’i olygu gan yr Athro Cyswllt Sabine Jacques, Ysgol y Gyfraith Prifysgol East Anglia, a’r Athro Emerita Ruth Soetendorp, Prifysgol Bournemouth, cynhaliwyd y digwyddiad lansio yng Nghyfadran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Llundain. Ymunodd Kath â chyflwyniadau gan awduron y bennod, a thraddododd yr Athro Syr Robin Jacob brif anerchiad a gadarnhaodd berthnasedd y llyfr i addysgwyr.

Meddai Kath: ‘Mae’r Drindod Dewi Sant yn cael ei rhestru’n gyson uchel ym mesurau’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ar gyfer busnesau newydd gan raddedigion. Rydym yn y safle 1af yn y DU ar hyn o bryd ar gyfer y nifer o fusnesau gan raddedigion sy’n rhedeg ar hyn o bryd ac ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn masnachu ers mwy na 3 blynedd. Mae ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd yn darparu arbenigedd amhrisiadwy wrth gefnogi datblygiadau ein cwricwlwm, a’r rheiny, o’r diwydiannau creadigol i ddechrau, a ddywedodd am bwysigrwydd diogelu’r creadigrwydd rydym yn ceisio ei ddatblygu yn ein dysgwyr.’

Dywedodd Barry Liles OBE, Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes): ‘Mae gan ein dysgwyr uchelgeisiau amrywiol ac, er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu potensial, rydym yn ymdrechu i roi’r adnoddau iddynt ddatblygu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Er nad yw dyfodol gwaith yn hysbys, gwyddom fod creadigrwydd a chymwyseddau digidol yn hanfodol, yn enwedig wrth edrych ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial, sydd i gyd yn gofyn am ddealltwriaeth o oblygiadau Eiddo Deallusol. Wrth i Swyddfa Batentau Ewrop amlygu fod 82 miliwn o swyddi yn y diwydiannau Eiddo Deallusol dwys, rydym yn falch o gefnogi sesiynau codi ymwybyddiaeth i’n myfyrwyr.’  

I gael rhagor o wybodaeth, gweler: https://www.epo.org/news-events/news/2022/20221011.html)  

Based on UWTSD’s unique approaches to learning through becoming more curious about a topic, the chapter details how non law students can be encouraged to look at everyday objects in a new light, based on the premise that if it were not for an understanding of Intellectual Property, they would most likely have not made it into the marketplace.

Nodyn i'r Golygydd

Mae Kath ac Andy Penaluna wedi bod yn darparu arweiniad addysgol i UKIPO ers mwy na 25 mlynedd, ac mae’r ddau’n eistedd ar bwyllgorau llywio Grŵp Prifysgolion a Cholegau Eiddo Deallusol y DU. Maen nhw’n darparu gweithdai’n rheolaidd mewn digwyddiadau i fusnesau newydd, gan gynnwys sesiynau bŵtcamp Llywodraeth Cymru i entrepreneuriaid ifanc.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

Ffôn | Phone: 07384 467071

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk