Torri Tonnau a Chwalu Rhwystrau – Partneriaeth rhwng Elusen a Phrifysgol yn mynd yn Rhyngwladol â Dyluniad Bwrdd Syrffio


14.06.2023

Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac elusen i blant, Cerebra, wedi helpu bachgen ysgol o Efrog Newydd yn ddiweddar i adeiladu un o’r byrddau syrffio addasadwy cyntaf ar fesur cwsmer yn yr Unol Daleithiau.

Ross Head surfboard design for USA schoolboy Brandon Surf For All

Partneriaeth rhwng Y Drindod Dewi Sant ac elusen Cerebra sy’n dylunio atebion ymaddasol rhesymegol, arloesol a hwyliog i blant â chyflyrau ar yr ymennydd yw Canolfan Arloesi Cerebra, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe.

Fe wnaeth un o’r dyluniadau hyn, bwrdd syrffio ymaddasol, ddal sylw Brandon Klein, bachgen ysgol 17 mlwydd oed o Efrog Newydd sydd am drawsnewid y profiad syrffio i bobl anabl.

Wedi’i ysbrydoli gan gyfarfyddiad a newidiodd ei fywyd, sefydlodd y llanc o Long Island elusen o’r enw Brandonsurfforall gyda’r genhadaeth i ddarparu cyfleoedd syrffio cynhwysol, ac fe gysylltodd ag arbenigwyr byd-eang enwog am gyngor.  

Fe wnaeth hyn ei arwain at Ganolfan Arloesi Cerebra, a oedd eisoes wedi creu bwrdd syrffio tandem ymaddasol arloesol sydd wedi chwyldroi’r gamp o syrffio i bobl anabl.

Cysylltodd Brandon ag un o Athrawon Y Drindod Dewi Sant, Dr. Ross Head o Ganolfan Arloesi Cerebra, a rannodd ei ddyluniad ar gyfer bwrdd syrffio a rhoi arweiniad ar greu bwrdd syrffio ar fesur cwsmer yn lleol.

Arweiniodd dyluniad Dr. Head, ynghyd ag arbenigedd Mike Becker o Nature's Shapes Custom Surfboards yn Efrog Newydd a sedd rasio ffibr-carbon arbenigol a wnaed gan Tillet Racing yn Llundain, at gychwyn gwaith adeiladu’r bwrdd.

Meddai Dr. Head: “Pan gawsom alwad o’r Unol Daleithiau, roedd hi’n anhygoel gwybod bod ein gwaith wedi’i weld mor bell i ffwrdd, ac roedd hi’n fraint fawr cefnogi’r prosiect uchelgeisiol hwn.

“Rwy’n falch iawn o’n dyluniad ar gyfer bwrdd syrffio tandem a’r holl hwyl, chwerthin a gwenau y mae wedi’i alluogi ar hyd y blynyddoedd, felly rwy’n llawn cyffro i’w weld yn cyrraedd y tonnau yn America! Da iawn Brandon, dylet ti fod yn falch iawn ohonot dy hun – byddi di wrth dy fodd yn gweld y gwenau hynny hefyd!' 

Meddai Brandon Klein: “Mae’n deimlad gwerth chweil gwybod y gallaf helpu i gyfoethogi bywydau pobl anabl â’r cyfle hwn sy’n newid bywydau. Cefais fy ysbrydoli i wneud y prosiect hwn ar ôl gwirfoddoli â Surf For All a gweithredu fel cadair ddynol i ddal rhywun yn syth fel y gallai reidio’r bwrdd syrffio.

“Rydw i wrth fy modd bod y bwrdd unigryw hwn bellach yn bodoli a fydd yn galluogi llawer o bobl i fwynhau gwefr syrffio yn y môr pan na allent wneud hynny cynt.”

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078