Triathlon Abertawe PCYDDS 2023
18.04.2023
Mae’r cyffro’n cynyddu cyn Triathlon Abertawe PCYDDS wrth i staff a myfyrwyr hyfforddi ar gyfer y digwyddiad sydd i’w gynnal yn y ddinas ar 28ain Mai 2023.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn parhau â’i phartneriaeth ag Activity Wales Events (AWE) eleni i ddarparu cyfleoedd er mwyn bod myfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o ddisgyblaethau’n gallu cymryd rhan yn y gwaith paratoi ar gyfer un o brif ddigwyddiadau chwaraeon y ddinas. Mae’r myfyrwyr hefyd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau er mwyn rhoi cymorth i dîm trefnu’r triathlon ar y diwrnod.
Mae Triathlon Abertawe PCYDDS yn un o driathlonau pellter sbrint undydd blaenllaw’r wlad. Cynhelir y digwyddiad unigryw hwn ar y Sul olaf ym mis Mai ac mae’n cipio bwrlwm diguro canol y ddinas yn ogystal â’r golygfeydd arfordirol trawiadol sydd i’w gweld ar hyd ei lwybr amrywiol, gan gynnwys datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd y Brifysgol yn SA1 Glannau Abertawe.
Meddai Geraint Forster PCYDDS, Cyfarwyddwr Rhaglen y BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: “Mae’r bartneriaeth ag Activity Wales Events wedi darparu cyfleoedd gwych i fyfyrwyr ennill profiad galwedigaethol hanfodol mewn sefyllfa go iawn. Mae gan fyfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyfle i hyfforddi aelodau o staff y brifysgol sydd am gymryd rhan yn eu triathlon cyntaf. Mae’r cyfle hwn yn gysylltiedig â’n modwl Hyfforddi Personol ac mae’n darparu profiad a chipolygon amhrisiadwy ar y proffesiwn.”
Dywedodd Matthew Evans, Prif Weithredwr Activity Wales, “Mae PCYDDS yn un o bartneriaid darparu blaenllaw’r byd Chwaraeon, Iechyd, ac Addysg Awyr Agored yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth wedi golygu nid yn unig bod y Brifysgol yn gallu darparu profiadau galwedigaethol yn gysylltiedig â thriathlon pellter sbrint blaenllaw’r wlad, ond hefyd er mwyn i’r digwyddiad ei hun, Abertawe yn ddinas gyrchfan a’r Brifysgol gael eu hamlygu i gynulleidfa fawr. Mae ein tîm yn teimlo’n freintiedig iawn o gael gweithio gyda’r myfyrwyr ar nifer o brosiectau creadigol ac arloesol, gan gynnwys yn bennaf oll, cynhadledd gyntaf y Wlad ar gyfer ymgeiswyr tro cyntaf, sydd wedi’i threfnu ar gyfer dechrau mis Mai.”
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Abertawe PCYDDS: “Mae’n bleser gan y Brifysgol barhau i gefnogi Triathlon Abertawe. Mae’n gyfle ardderchog i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon pwysig a gynhelir yng nghalon canol y ddinas, sy’n gartref i’n campws. Mae’r digwyddiad hwn yn galluogi’r Brifysgol i gydweithio â phartner allweddol er mwyn darparu buddion gwirioneddol o ran profiad myfyrwyr, ond hefyd, mae’n ein galluogi i gefnogi digwyddiad sy’n ceisio rhoi hwb i weithgarwch economaidd yn Abertawe trwy ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr at y ddinas.”
Erbyn hyn, Triathlon Abertawe PCYDDS yw canolbwynt Gŵyl Triathlon Abertawe sy’n cynnwys ras ffordd 5k Abertawe a’r Swansea Swim yn ddigwyddiadau unigol. Dathliad enfawr o gyffro aml-chwaraeon sy’n agored i athletwyr o bob oed a gallu, sy’n hyrwyddo ymrwymiad AWE i gynhwysiant a’u hymdrech i #ysbrydolirgenedl.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071