Un o raddedigion Busnes a Rheolaeth y Drindod Dewi Sant yn sicrhau swydd ei breuddwydion gyda Heddlu Dyfed Powys


06.09.2023

Mae Kirsty Thomas wedi graddio o’r rhaglen BA Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Penderfynodd ddod i astudio yn y Drindod Dewi Sant ar ôl clywed adborth gwych gan gyn-fyfyrwyr, ac fel mam sengl brysur, roedd y lleoliad yn ddelfrydol iddi hi.

Kirsty Thomas is a BA Business and Management graduate from The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) in Carmarthen. She decided to come and study at UWTSD as she had heard great feedback from previous students, and as a busy single mother the location was ideal for her.

Drwy’r cwrs BA Busnes a Rheolaeth bu fodd i Kirsty ennill gwybodaeth a sgiliau ynghylch cynaliadwyedd a syniadau arloesi ar gyfer y dyfodol.  Meddai:

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i baratoi am yrfa mewn busnes a rheolaeth yn y dyfodol ac mae wedi caniatáu i mi fod yn greadigol a meddwl yn wahanol o ran adeiladu dyfodol cynaliadwy a meddwl am ein gweithredoedd ni a’u canlyniadau.  Mae cyfleoedd eraill ar gael gydol y cwrs sy’n gallu caniatáu i chi ennill mwy o sgiliau a gwybodaeth.”

Mwynhaodd Kirsty bopeth am y cwrs, fodd bynnag ei hoff agwedd arno oedd creu cynlluniau busnes arloesi i’r dyfodol.  Uchafbwynt arall i Kirsty oedd ei phrosiect annibynnol, lle gwnaeth ymchwil i’r argyfwng gwastraff plastig a’r effaith mae’n ei chael ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt.  Ychwanegodd:

“Bu modd i mi gynnal f’ymchwil ansoddol fy hun a oedd yn ddiddorol iawn ac fe ddysgais i lawer drwyddo. Y diwydiant harddwch oedd fy ffocws am mai nhw yw’r cyfranwyr pennaf i’r argyfwng gwastraff plastig rydym ni’n ei wynebu heddiw.  Rwyf hefyd wedi dysgu am yr heriau sydd ynghlwm â bod yn fusnes sy’n foesegol, yn gynaliadwy ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.”

I Kirsty, roedd bod yn fam sengl ac astudio cwrs israddedig amser llawn ar yr un pryd â gweithio’n rhan amser yn heriol.  Fodd bynnag, bu gallu Kirsty i reoli’i hamser a bod yn drefnus yn gymorth i’w gwthio hi drwy’r cwrs.

“Rwy’n credu mai fy merched sy’n fy symbylu ac mae cyflawni fy nghymwysterau’n rhywbeth a wnes i er ein mwyn ni fel teulu.”

Disgrifiodd Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn lle arbennig oherwydd y cymorth a gafodd gan ei darlithwyr.  

“Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw, byth.” Maen nhw wedi caniatáu i mi fagu hyder gydol y 3 blynedd rwyf wedi astudio yno a ches i’r cyfle i fod yn gynrychiolydd dosbarth am ddwy flynedd yn olynol.  Mae astudio Busnes yng Nghaerfyrddin wedi caniatáu i mi gyflawni fy nodau.

“Yn sicr mae’r cwrs wedi fy natblygu fel unigolyn.  Pan ddechreuais i ar y cwrs roeddwn i’n nerfus iawn a heb unrhyw hyder. Ar ôl cael f’ethol yn gynrychiolydd dosbarth am ddwy flynedd yn olynol, a gwybod beth rwyf wedi’i ddysgu yn ystod 3 blynedd olaf fy nghwrs, fyddwn i ddim ble rwyf i heddiw, yn gweithio’n amser llawn yn swydd fy mreuddwydion.

Ar ôl i Kirsty raddio, sicrhaodd swydd yn brentis AD ym maes recriwtio gyda Heddlu Dyfed Powys.

“Bu’r cwrs yn gymorth i mi fagu hyder o ran credu y gallwn i gyflawni fy nod a bu modd i mi ennill y wybodaeth a’r sgiliau roedd eu hangen arnaf gydol fy nghwrs.  Mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu wedi bod yn gymorth aruthrol yn fy ngyrfa newydd ac rwy’n gobeithio parhau i ddysgu ac ennill mwy o sgiliau drwy fy ngyrfa gyfredol.

“Cynhaliodd y Drindod Dewi Sant ffair yrfaoedd lle roeddwn i wedi gallu cwrdd â thîm recriwtio Heddlu Dyfed Powys, a ches i siarad â nhw fy hun a fu’n sbardun i mi achub ar y cyfle rwyf bob amser wedi dymuno ei gael.”

Meddai Jessica Shore, darlithydd yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae Kirsty wedi bod ar daith hunan-ddarganfod anhygoel, mae’i hyder ynghyd â’i gwybodaeth a’i phrofiad wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi bod yn bleser mawr i ni fod yn rhan o hanes Kirsty. Roedd Kirsty yn rhan werthfawr iawn o grŵp blwyddyn gwych, ac rydym ni wrth ein boddau i’w gweld hi’n cyflawni’i breuddwydion ac yn gadael y Brifysgol nid yn unig â gradd ond hefyd â swydd ffantastig a dyfodol disglair iawn iddi hi a’i theulu.   Fel y mae Kirsty wedi sôn, mae astudio yn ogystal â bod yn rhiant neu ddal swydd yn bosibl ac yn rhoi boddhad.”

Byddai Kirsty yn annog pobl eraill i ddilyn ei hesiampl:

“Achubwch ar y cyfle, fyddwch chi ddim yn difaru.  Mae digon o gymorth ar gael gan ddarlithwyr a byddwch chi’n cwrdd â phobl wych ar y ffordd. Byddwch yn bositif ac mae’r gwaith caled yn werth yr ymdrech yn y diwedd.  Os gallaf i ei wneud, gall rhywun ei wneud.”

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk