Un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn Llundain yn gobeithio dychwelyd i'r Brifysgol i addysgu ac ysbrydoli eraill


18.07.2023

Dywed Sachna Monga, sydd wedi graddio gyda Doethuriaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes, ei bod hi’n gobeithio parhau â'i thaith ddysgu a dychwelyd yn ddarlithydd i rannu ei sgiliau a'i harbenigedd â'r genhedlaeth nesaf.

Sachna Monga, who has graduated with a Doctorate in Business Administration, says she hopes to continue her learning journey and return as a lecturer to share her skills and expertise with the next generation.

Dywedodd Sachna, sydd â Gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes Rhyngwladol eisoes, mai’r hyn a’i denodd i gampws Y Drindod Dewi Sant yn Llundain oedd ei henw da am ragoriaeth, rhaglen radd DBA unigryw, bodlonrwydd myfyrwyr a'i lleoliad.

Meddai: "Fe wnaeth Doethuriaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes fy ysbrydoli a'm hysgogi'n aruthrol i fynd â'm datblygiad rheolaeth a'm datblygiad proffesiynol i'r lefel nesaf.

"Roeddwn i am ddyfnhau fy ngwybodaeth am Weinyddiaeth Busnes am fy mod yn gwybod y byddai'r cwrs hwn yn gwella fy nealltwriaeth graidd o ymchwil ac yn cynyddu fy meddwl beirniadol i lefel newydd.

"Fy uchelgais yw dod yn ddarlithydd yma a thra roeddwn i'n astudio roedd fy nghyd-fyfyrwyr bob amser yn dweud wrthyf fy mod i’n dda am egluro pynciau a byddai pobl bob amser yn gofyn i mi  addysgu mewn grŵp, a dyna a wnaeth fy ysgogi i fod yn ddarlithydd.

"Rwyf hefyd wedi gallu cysgodi fy narlithydd gan fod y brifysgol wedi rhoi cyfle i mi ddysgu myfyrwyr o dan eu harweiniad, a fydd yn fy helpu i gyflawni’r rôl yr hoffwn i'w chael yn ddarlithydd yn y dyfodol agos."

Dywed Sachna y byddai'n argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr.

"Mae'r cwrs hwn nid yn unig yn gwella sgiliau meddwl beirniadol ond hefyd yn eich helpu chi'n bersonol. Mae angen llawer o amynedd i orffen pob pennod yn berffaith ac erbyn diwedd y cwrs, dyna chi wedi dod yn gryfach ym mhob agwedd ar fywyd," meddai.

"Mae wedi fy helpu yn fawr iawn. Rwyf wedi datblygu sgiliau dadansoddi ac wedi gwella fy sgiliau mewn dulliau ystadegol methodoleg feintiol. Rwyf hefyd yn gryfach mewn technegau datrys problemau sy'n helpu mewn llawer o weithgareddau personol hefyd."

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

Ffôn | Phone: 07384 467071

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk