Wythnos Sioe Deithiol Prentisiaethau PCYDDS – 22 i 26 Mai
15.05.2023
Mae uned Gradd-brentisiaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn mynd ar daith i rannu ei harbenigedd â darpar gyflogwyr a myfyrwyr.
Bydd y sioe deithiol yn ymweld â Chaerdydd, Casnewydd, Llanelli, Treforys, Llansamlet a Fforest-fach, yn ogystal â lleoliadau yn Sir Benfro a Sir Gâr.
Emily Hunt: "Mae’n bleser cael mynd â’n huned brentisiaeth wych allan ar y ffordd. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chwmnïau o amgylch De Cymru i roi gwybod iddynt am ein prentisiaethau gradd a ariennir yn llawn gan y Llywodraeth sydd ar gael ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant."
Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol, sy’n darparu gradd-brentisiaethau i fwy na 100 o gyflogwyr ar hyn o bryd. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf â sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gan gynnwys BBaCh, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.
Rydyn ni’n deall heriau bob dydd busnesau ac, o ganlyniad, crëwyd Rhaglen Brentisiaeth dan arweiniad y Diwydiant gennym mewn partneriaeth â chyflogwyr sydd, o’i gyfuno â phrofiad ymarferol dyddiol yn y swydd, yn cefnogi myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth a geir yn uniongyrchol i’r gweithle.
Mae ein gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau. Gallwch ddilyn gradd-brentisiaeth i uwchsgilio, neu ail-sgilio os ydych eisoes mewn gwaith.
Gall busnesau ddefnyddio’r rhaglen brentisiaethau i wneud y canlynol:
- Llenwi bylchau sgiliau yn eich busnes trwy uwchsgilio neu ail-hyfforddi gweithwyr.
- Recriwtio gweithwyr dawnus â photensial i’ch busnes.
- Cynllunio olyniaeth sy’n canolbwyntio ar nodi a datblygu doniau i lenwi swyddi arweinyddiaeth a hanfodol i’r busnes yn y dyfodol.
- Darparu llwybr deniadol at gyfleoedd a dilyniant gyrfaol i weithwyr presennol.
I ddarpar fyfyrwyr:
- Gallwch ennill wrth ddysgu – Mwynhewch y manteision o fod yn weithiwr llawn amser a chael amser i ffwrdd â thâl i astudio a mynychu dosbarthiadau drwy gydol eich rhaglen radd.
- Gallwch ennill cymwysterau a gydnabyddir yn Genedlaethol – ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.
- Mae gradd-brentisiaethau’n rhoi llwyfan gwych i wella eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad ymarferol a fydd hefyd yn gwella eich cyflogadwyedd a’ch dilyniant gyrfaol.
- Dim dyled myfyriwr – y Llywodraeth neu'r cyflogwr sy’n talu’r ffioedd dysgu, gweler y dudalen ariannu.
- Gallwch gael mynediad llawn i wasanaethau a chyfleusterau gwych ein campysau.
- Byddwch yn cael swyddog cyswllt prentisiaethau penodedig a fydd yn rhoi cymorth bugeiliol ac academaidd i chi drwy gydol eich rhaglen.
- Cyngor a chymorth â’r cais ariannu.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk