Y Drindod Dewi Sant i Arddangos Cwilt 200 y Daucanmlwyddiant yng Ngŵyl y Cwiltiau yn Birmingham dros yr haf


21.07.2023

2022 oedd blwyddyn daucanmlwyddiant y Drindod Dewi Sant, ac i nodi cyrhaeddiad mor arwyddocaol, cychwynnodd y rhaglen BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau gwilt cydweithredol, cymunedol â 200 bloc  – “Cwilt 200”.

Erthygl gan Niamh Morgan, BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Coleg Celf Abertawe.

 

The Surface Pattern and Textiles team challenged BA Photography students to capture the quilt in a variety of local, Welsh locations.

Mae cwiltio’n weithred o gydosod a ddechreuodd yn yr oesoedd canol.  Mae iddo hanes diwylliannol hir, gan gynnwys cael ei ddefnyddio at bethau llai adnabyddus megis arfwisg – amddiffyn unigolion rhag saethau.   Mae’r syniad amddiffynnol hwn yn berthnasol i Gwilt 200 drwy ddefnydd y prosiect o’r gair Cymraeg “Cwilt” fel enw, sy’n golygu gorchudd â phwysau sy’n rhoi gwres a diogelwch.   Mae “Cwilt” hefyd yn archwilio nodwedd Gymreig arall sef “Cwtsh”, gweithred o gariad a gwahoddiad i unigolion symud yn agosach.  

Cwblhawyd y cwilt ar ddiwedd 2022 ond yn ddiweddar mae wedi ennyn diddordeb gan Ŵyl y Cwiltiau – y digwyddiad rhyngwladol enwog a fydd yn arddangos mwy na 1200 o gwiltiau ac sy’n cael ei chynnal yn Birmingham bob haf.   Mae’r prosiect cymunedol uchelgeisiol wedi taro tant gyda thîm yr ŵyl, ac maent wedi cynnig arddangos y darn yr haf hwn, sy’n cyd-fynd â’u penblwydd hwythau’n 20 oed.  Bydd graddfa 4 x 5 metr Cwilt 200 y Drindod Dewi Sant yn ei osod ar wahân i gwiltiau’r gystadleuaeth yn y digwyddiad.   Cewch weld Cwilt 200 ar Stondin E23!

Mae elfennau o’r Cwilt wedi archwilio gweithio gydag ethos o gynaliadwyedd, er enghraifft pan ofynnwyd i Artistiaid Preswyl Coleg Celf Abertawe a myfyrwyr blwyddyn 1af Patrymau Arwyneb a Thecstilau ddod o hyd i ffabrigau cotwm a ddefnyddiwyd o’r blaen o gartref neu o siopau elusen, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb.   

Meddai’r Rheolwr Rhaglen Georgia McKie, “Yn sicr rydym ni wedi tanio llawenydd drwy’r gweithdai wrth rannu profiadau o sgwrsio, deunydd darniog, gwneuthur a phwytho.   Mae’r ysbryd cydweithio wedi bod yn nodwedd ddiffiniol yn y prosiect – o weithio gyda’n myfyrwyr ein hun i ymgysylltu â dysgwyr o oddeutu 10 coleg ac ysgol fwydo wahanol.  Mae’r holl gyfranogwyr wedi bod yn awyddus i gofleidio ethos y prosiect, gan ddod ato gydag amrediad o wahanol brofiad a lefelau sgiliau gyda chlytwaith.”  

Cynhaliodd tîm Cwilt 200 y Drindod Dewi Sant weithdai mewn 10 ysgol a choleg gwahanol – ar y campws ac yn New Designers 22, yr arddangosfa i raddedigion sy’n cael ei chynnal yn y Ganolfan Ddylunio Busnes Islington.  Cyflwynodd tîm Patrymau Arwyneb a Thecstilau y sesiynau Cwilt 200 i fwy na 100 o fyfyrwyr, gyda phob un yn creu’i elfen ei hun o’r cwilt.   Cyflwynodd y gweithdai ddulliau arloesol, gan ddefnyddio blociau Cwilt collage ar bapur, y trawsnewidiodd myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau’r rhain wedyn yn flociau tecstil a argraffwyd yn ddigidol.   Wedyn gwnïwyd pob bloc i mewn i’r darn 200 bloc epig.

Meddai Susan Down sy’n astudio Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd y prosiect yn brofiad gwych, roedd yn caniatáu i ddylunwyr newydd fel ni arfer a dysgu technegau traddodiadol cwiltio gyda’n gilydd.  Roedd hi’n wych gweld cynnydd ein gwaith, a gallu ymfalchïo mewn cyflawni hyn fel grŵp cydweithredol.”

Heriodd y tîm Patrymau Arwyneb a Thecstilau fyfyrwyr BA Ffotograffiaeth i ddal y cwilt mewn amrywiaeth o leoliadau lleol yng Nghymru. Meddai’r myfyriwr Ffotograffiaeth yn y Drindod Dewi Sant, Katie Nia Davies: “Undod cymdeithasol yw’r cysyniad tu ôl i’r Cwilt, mae’i raddfa fawr yn pwysleisio’r syniad hwn yn weledol.  Er mwyn dal y Cwilt, roeddwn i’n awyddus i’w weld yn nhirwedd Abertawe i ddangos sut mae’r gymuned hon yn mynd tu hwnt i waliau’r brifysgol.” I fynegi syniadaeth y cwilt a’i allu i ddod ag unigolion ynghyd, tynnodd Katie luniau hefyd o grŵp o fyfyrwyr yn dal pob pen o’r darn, gan archwilio’r term hiraeth, sy’n cyfeirio at fath penodol o ddyheu am leoliad sy’n gartref.

Mae tîm Cwilt 200 yn falch o’r effaith mae’r prosiect wedi’i chael ac mae ganddynt lawer o gynlluniau amdano ar ôl yr Ŵyl Gwiltiau.   Ym mis Medi 2023 caiff ei arddangos yng nghyntedd Campws Dinefwr Coleg Celf Abertawe ar gyfer “Talent Tecstilau Abertawe”, prosiect cysylltu i ysgolion a cholegau yn dathlu’r gwaith Tecstilau gwych sy’n digwydd ar Lefel TGAU, UG, a Safon Uwch ar lefel sefydliadau bwydo yn ne a gorllewin Cymru.   Wedi’r arddangosfa honno, bydd Cwilt 200 wedyn yn mynd ar daith.

Meddai Georgia “Bydd y Cwilt yn teithio i rai o’r ysgolion o gwmpas y wlad a helpodd i’w ddylunio – o Ysgol Esgob Gore Abertawe i Ysgol Uwchradd Bendigaid William Howard, Swydd Stafford gyda llawer yn y canol.   Rydym ni’n awyddus i alluogi pawb i rannu canlyniad ein cydweithrediad.   Mae’n bwysig bod y Cwilt yn cael ei ddefnyddio, ei drin, ei archwilio, ei ddathlu, a’i weld gan bawb a chwaraeodd ei ran yn ei wneud.”

Katie also photographed a group of students holding either end of the piece exploring the term ‘’hiraeth,’’ a Welsh word referring to a particular longing for a home location.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk