Y Drindod Dewi Sant i gynnal Cynhadledd Flynyddol ym maes Seicoleg
16.05.2023
Bydd myfyrwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr ym maes seicoleg yn bresennol yn adeilad IQ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Sadwrn 10 Mehefin ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cangen Cymru o Gymdeithas Seicoleg Prydain 2023.
Bydd y gynhadledd, fydd yn canolbwyntio ar arfer seicoleg mewn cymunedau, yn arddangos peth o’r ymchwil gorau gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o Gymru ochr yn ochr â sgyrsiau gan ymarferwyr sy’n gweithio yn y gymuned.
Bydd tîm Gyrfaoedd Cymdeithas Seicoleg Prydain hefyd yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a bydd cynrychiolwyr o’r Is-adrannau Seicoleg yno i siarad am eu harbenigedd a rhoi cyfarwyddyd gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i seicoleg.
Meddai Dr Paul Hutchings, Cyfarwyddwr Academaidd Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod Dewi Sant, “Mae’n wych gallu croesawu’r gymuned seicoleg yn ôl i’n prifysgol, yn enwedig ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf o fethu â chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb. Rydym yn gobeithio y bydd pawb fydd yn bresennol yn gallu elwa o’r cyfuniad cyffrous hwn o drafodaethau gan academyddion ac ymarferwyr, a hefyd yn gallu dysgu rhagor am yrfaoedd posibl yn y dyfodol.
“Mae seicoleg wrth galon ein cymunedau, boed o ran y swyddi mae pobl yn eu gwneud neu’r ffyrdd maent yn rhyngweithio ag eraill yn y gymdeithas, a gobeithiwn y bydd y gynhadledd hon yn hyrwyddo hynny hyd yn oed ymhellach.”
Gallwch ddysgu rhagor am y gynhadledd yma, a rhyddheir y rhestr o siaradwyr yn fuan.
Cysylltu cymunedau drwy seicoleg a newidiadau cymdeithasol | BPS
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk