Y Drindod Dewi Sant i ymuno â dirprwyaeth sy’n arddangos prosiectau diwydiant arloesol yng Nghyngres y Byd IOT Solutions ym Marcelona


31.01.2023

Mae cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a busnesau o Gymru’n mynychu Cyngres y Byd IOT Solutions (IOTSWC) ym Marcelona, Sbaen o 31 Ionawr i 2 Chwefror, 2023.

 

Representatives from the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) and Welsh businesses are attending the IOT Solutions World Congress (IOTSWC) in Barcelona, Spain from January 31 to February 2, 2023.

Estynnwyd y gwahoddiad i’r Drindod Dewi Sant gan Lywodraeth Cymru oherwydd llwyddiant prosiect y Cyflymydd Digidol SMART, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd â’r nod o gefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru ar eu taith ddigideiddio.

Yr IOTSWC yw’r prif ddigwyddiad ar dueddiadau mewn trawsnewid digidol a thechnolegau tarfol. Nod y gyngres yw creu map ffordd i lywio drwy’r cyfleoedd a’r risgiau, ac i helpu sefydliadau ganolbwyntio ar y technolegau sy’n cael yr effaith busnes fwyaf.  

Pwrpas y gyngres yw creu deialog rhwng arweinwyr sy’n ysgogi mentrau arloesi digidol grymus ac sy’n trawsnewid diwydiannau.

Bydd cynrychiolwyr o brosiect Cyflymydd Digidol SMART y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys Richard Morgan, Lisa Lucas, Simon Thomas, a Raoul Chappell, yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o weithgynhyrchwyr o Gymru, Probe RTS, Morgan Advanced Materials, a Safran Seats, y mae pob un ohonynt yn elwa’n llwyddiannus o’r prosiect.

Arweinir y ddirprwyaeth gan Gwion Williams (Rheolwr Gweithrediadau) a Peter Williams (Rheolwr Perthnasoedd Technegol) o Lywodraeth Cymru. Y nod yw arddangos y gorau o brosiectau arloesol Cymru sy’n newid y diwydiant a chwilio am berthnasoedd a thechnolegau newydd a all ddarparu atebion i heriau yng Nghymru a ledled y byd. Mae gan y ddirprwyaeth ddiddordeb arbennig mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg a chyfleoedd trosglwyddo gwybodaeth. 

Mae amserlen y ddirprwyaeth yn cynnwys ymweliadau â chanolfannau rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Argraffu 3D, Diwydiant Digidol, Roboteg, yn ogystal â sawl cyfle rhwydweithio.

Bydd Gary Clifford, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnacheiddio, a Jo Walker, Rheolwr Prosiect o’r tîm INSPIRE, yn ymuno â’r gyngres yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos i chwilio am berthnasoedd busnes newydd a fydd yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant i ddatblygu eu presenoldeb busnes rhyngwladol sydd eisoes yn gryf.

Meddai Gary Clifford, “Fel Pennaeth INSPIRE, tîm sy’n gyfrifol am Ymchwil, Masnacheiddio, Menter, ac Ymgysylltu Dinesig yn y Drindod Dewi Sant, mae’r digwyddiad byd-eang hwn yn cyflwyno cyfle go arbennig i’r brifysgol rwydweithio a chysylltu ag unigolion a sefydliadau o’r un fryd. Rwy’n awyddus i rannu ein harbenigedd a dysgu gan eraill wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein partneriaethau er mwyn dod â phrosiectau cydweithredol ac sy’n cael effaith yn fyw. Mae’r digwyddiad hwn yn cynrychioli eiliad ddiffiniol o ran lle Cymru yn y diwydiant technoleg byd-eang, ac rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan ohono.”

Meddai Barry Liles, Pro Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, “Rydym yn andros o falch o gael ein gwahodd i fod yn rhan o ddirprwyaeth sy’n mynychu Cyngres y Byd IOT Solutions ym Marcelona. Mae’r gwahoddiad hwn yn brawf o waith caled ac ymroddiad ein staff a’r partneriaethau cryf rydyn ni wedi’u creu gyda Llywodraeth Cymru a busnesau yng Nghymru. Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn hollol ymroddedig i rôl Cymru fel arweinydd mewn digideiddio a mabwysiadu technoleg a gwelwn y Gyngres hon fel cyfle aruthrol i arddangos ein prosiectau sydd ar flaen y gad a meithrin perthnasoedd newydd a fydd yn ysgogi arloesi a thwf.”

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, James Cale o’r Drindod Dewi Sant hefyd yn mynychu’r Gyngres i edrych ar sut i ddefnyddio technolegau digidol i ysgogi creadigrwydd, cynhyrchiant, ac effeithlonrwydd, wrth symud y Brifysgol tuag at fodel busnes â ffocws digidol. Bydd Geraint Flowers, Pennaeth Prosiectau Cyfalaf y Drindod Dewi Sant hefyd wrth law i werthuso sut y bydd y Brifysgol yn ymgorffori technolegau’r dyfodol i’w seilwaith. 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk