Y Drindod Dewi Sant yn creu partneriaeth strategol â Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin
18.07.2023
Mae partneriaeth strategol newydd wedi’i chreu rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin i ddarparu llwybr i fyfyrwyr gyfuno eu huchelgeisiau academaidd a rygbi trwy Addysg Uwch a rygbi lled-broffesiynol.
Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp Y Drindod Dewi Sant, ac mae ei ymrwymiad i ddarparu profiad dysgu ardderchog yn greiddiol i’w weithgareddau. Nod y ddau sefydliad yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â rygbi perfformiad uchel wrth iddynt astudio.
Mae’r ddau sefydliad eisoes wedi cydweithio ar fentrau academaidd a chwaraeon allweddol, ac mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau eu perthynas ymhellach.
Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant rygbi ar lefel broffesiynol a hyfforddiant cryfder a chyflyru, yn ogystal â chyngor ar faeth, deiet, a ffordd o fyw. Bydd gan y myfyrwyr amrywiaeth o opsiynau academaidd yn ogystal â chael chwarae yn strwythur Cynghrair / Cwpan Undeb Rygbi Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
Ochr yn ochr â hyn, cânt eu cefnogi gan Glwb Rygbi Cwins Caerfyrddin sydd â llwybrau i chwaraewyr trwy eu hadrannau mini ac iau hynod lwyddiannus, hyd at eu Tîm Ieuenctid i mewn i’w tîm 1af Lled-Broffesiynol sy’n cystadlu yn Uwch Gynghrair URC, sef y lefel uchaf o rygbi o dan y gêm ranbarthol broffesiynol yng Nghymru.
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant:
“Rydym yn wastad yn ceisio gwella’r cysylltiadau rhwng chwaraeon perfformiad uchel ac addysg uwch i greu llwybrau unigryw fel hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a pherfformiad uchel mewn rygbi a fydd o fudd i’n dysgwyr.
“Rydym yn croesawu’r cyfleoedd y mae hyn yn eu creu ar gyfer mwy o aliniad rhwng y ddau sefydliad. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd addysg uwch a rygbi Lled-broffesiynol i ddysgwyr yn y byd academaidd a rygbi.”
Meddai Gareth Potter, Pennaeth Rygbi yn Y Drindod Dewi Sant:
“Bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Y Drindod Dewi Sant a Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin yn rhoi llwybr i fyfyrwyr lle gallant hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn chwaraeon coleg, prifysgol a rygbi lled-broffesiynol wrth gyflawni eu nodau academaidd ar yr un pryd.”
Meddai Steff Thomas, Rheolwr Rygbi Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin:
“Dyma bartneriaeth gyffrous iawn a fydd yn cynnig llawer i’r ddau barti. Gwelsom sawl cyn-aelod o’n hadran fini ac iau arbennig yn symud i ffwrdd o’r ardal i astudio yn y brifysgol ac yna’n chwarae rygbi lled-broffesiynol yn nes at ble’r aethant i astudio. Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi cyfle i chwaraewyr lleol astudio a chwarae rygbi lled-broffesiynol yng Nghaerfyrddin. Bydd y rhaglen rygbi y mae’r brifysgol yn ei rhedeg ochr yn ochr â’r astudio, ynghyd â rhaglen lled-broffesiynol y Cwins yn rhoi cyfle i unrhyw chwaraewr gyflawni ei botensial.”
Ychwanegodd Jeff Davies, Cadeirydd Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin:
“Mae’r bartneriaeth hon yn ardderchog a gwêl weledigaeth go iawn i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol a chynnig cyfle i’r chwaraewyr rygbi uchelgeisiol a dawnus gyflawni eu potensial yn academaidd ac fel chwaraewyr rygbi. Mae’n cynnig cyfleoedd go iawn ar gyfer twf i’r ddau barti ac rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant a hyrwyddo’r ddau sefydliad, tref Caerfyrddin, a’r cymunedau cyfagos y mae llawer o’n chwaraewyr dawnus yn hanu ohonynt.”
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin o'r Drindod Dewi Sant:
"Mae hon yn bartneriaeth werthfawr a fydd yn galluogi Academi Chwaraeon y Brifysgol i dyfu a datblygu ymhellach a chaniatáu i dalent rygbi Gorllewin Cymru yn y dyfodol elwa o brofiad addysg uwch yn y rhanbarth. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio ar y cyd â chlwb rygbi mor uchelgeisiol sydd â hanes profedig o ddatblygu chwaraewyr talentog ar gyfer y gêm lled-broffesiynol a phroffesiynol yng Nghymru."
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476