Y Drindod Dewi Sant yn cynnal digwyddiad yn ymwneud â’r diwydiant Peirianneg Hedfan


24.03.2023

Gwahoddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant siaradwyr o’r diwydiant Peirianneg Hedfan i fynychu digwyddiad yn ein hadeilad IQ yn Abertawe ar gyfer myfyrwyr a disgyblion cyfredol Ysgol Gyfun Cefn Saeson yng Nghastell-nedd.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) invited speakers from the Aviation Engineering industry to attend an event at our IQ building in Swansea for current students and pupils from Cefn Saeson Comprehensive in Neath.

Gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM, a chyda ffocws penodol ar fenywod ym maes hedfanaeth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y prif siaradwr yn y digwyddiad oedd Patricia Mawuli Porter OBE, Peiriannydd ym maes awyr Hwlffordd a chyd-berchennog y cwmni awyrennau ysgafn, Metal Seagulls.  

Cefnogwyd y digwyddiad gan brosiect MADE Cymru yn y Drindod Dewi Sant, sy’n hyrwyddo uwchsgilio gweithgynhyrchwyr yng Nghymru ac sydd wedi cydweithio gyda Metal Seagulls o’r blaen. Ariennir y prosiect gan yr UE trwy Lywodraeth Cymru.

Mae Patricia bellach yn adeiladu awyrennau mewn awyrendy yn y maes awyr yng ngorllewin Cymru gyda’i gŵr, ond mae’n hanu’n wreiddiol o bentref yn Ghana lle darganfu ei hangerdd am hedfan am y tro cyntaf.

A hithau’n benderfynol o lwyddo, cafodd Patricia swydd yn y pen draw ym Maes Awyr Kpong yn Ghana er iddi gael ei gwrthod i ddechrau ‘oherwydd ei bod hi’n fenyw.’ Mae bellach yn fam ac yn berchennog cwmni, ac nid yw awydd Patricia i godi statws pobl eraill wedi newid, wrth iddi ddarparu interniaethau a chyfleoedd gwaith i bobl leol trwy Metal Seagulls.

Hi yw’r fenyw gyntaf o Ghana i gael ei hardystio’n beilot, yn beiriannydd awyrennau, yn athro ac yn hyfforddwr, a’r unig fenyw sydd wedi cymhwyso i adeiladu Peiriannau Awyrennau Rotax.

Meddai Patricia: “Mae bob amser yn bleser rhannu fy angerdd am STEM, pobl ifanc, peirianneg a hedfanaeth.  Roedd cyflwyniadau’r Drindod Dewi Sant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yn arbennig. Roedd siarad ochr yn ochr ag unigolion o safon mor uchel, a chyda chynulleidfa mor wych, yn bleser.  Rwy’n gobeithio y bydd fy stori’n gweithredu fel ffwlcrwm ac yn galluogi pobl ifanc i sicrhau eu llwyddiant eu hunain mewn gyrfaoedd STEM. Cofiwch mai’r unig wahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant yw gwaith caled, angerdd a phenderfyniad.”

Yn ogystal bu Carys Williams, un o raddedigion Peirianneg Drydanol / Electronig y Drindod Dewi Sant, sydd bellach yn gweithio i Metal Seagulls, yn siarad am ei thaith fel menyw ym maes STEM.

Meddai Carys: “Mae gallu siarad â phobl ifanc a dylanwadu arnynt i sylweddol bod STEM yn bwysig yn rhywbeth mae’n rhaid ei wneud y dyddiau hyn. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod mwyafrif y gweithgareddau a wnânt mewn bywyd bob dydd yn defnyddio rhyw ffurf ar STEM.

“Mae’n bwysig i bobl ifanc sylweddoli nad oes ots os nad ydynt yn cydymffurfio â’r ‘norm’. Nhw yw’r rhai fydd yn chwalu’r rhwystrau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gwnaeth yr Uwch-gapten Rosette Clarke-Morton, aelod o luoedd arfog yr Unol Daleithiau er 16 mlynedd, rannu ei thaith sydd wedi mynd â hi o amgylch y byd, yn cefnogi ymgyrchoedd milwrol. Mae wedi mwynhau gyrfa amlochrog yn gweithio ym maes cudd-wybodaeth, diogelwch, hedfanaeth, a gorfodi’r gyfraith.

Ar hyn o bryd mae’r Uwch-gapten Clarke-Morton wedi’i neilltuo i Gatrawd Signal 14 y fyddin Brydeinig fel uwch swyddog cyfnewid ym Mreudeth, Sir Benfro.

The event was supported by UWTSD's MADE Cymru project, which champions the upskilling of manufacturers in Wales and has previously collaborated with Metal Seagulls. This project is funded by the EU through the Welsh Government.

Rhoddodd yr Awyr-lefftenant Jack DeSchoolmeester gyflwyniad ynghylch gweithio fel peiriannydd i’r Red Arrows, un o dimau arddangos campau hedfan gorau'r byd.

Meddai: “Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn STEM. Rwy’n falch iawn i allu cynrychioli Tîm Campau Hedfan yr Awyrlu Brenhinol, y Red Arrows, yn Abertawe, fy nhref enedigol, i dynnu sylw at y modd rydym yn ymgorffori STEM yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd. Roedd yn anrhydedd i siarad ymhlith panel mor dalentog o Fenywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i dynnu sylw at lwyddiannau’r Menywod sydd gennym yn y Red Arrows.”

Bu’r digwyddiad yn archwilio’r themâu cyffredinol o chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau llwyddiant ac yn amlygu rhai llwybrau gyrfa cyraeddadwy i’r myfyrwyr a’r disgyblion ysgol oedd yn bresennol. Roedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar draws gorllewin Cymru i ddathlu’r diwydiant hedfanaeth gan gynnwys cystadleuaeth a drefnwyd gan Faes Awyr Hwlffordd ar gyfer Diwrnod Menywod Cymru.

Meddai Abi Summerfield, uwch ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant:  “Wrth feddwl pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn bwysig, mae’n dipyn o her i recriwtio merched i faes STEM. Mae gwyddoniaeth yn gwneud yn dda gyda rhaniad o bron i 50/50, ond mae peirianneg a chyfrifiadura ymhell ar ei hôl. Felly mae angen mentrau ac achlysuron fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i godi ymwybyddiaeth ac i’n helpu i weithio tuag at chwalu’r rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig i gynyddu’r gweithlu benywaidd ar gyfer pob maes, ond yn enwedig y rhai lle mae’r diffyg yn parhau.”

Carys Williams, a UWTSD Electrical Engineering graduate who now works for Metal Seagulls, also spoke about her journey as a woman in STEM.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071