Ymchwil newydd gan ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant, yn tynnu sylw at y modd y gall rhieni helpu’n weithredol i ddatblygu llythrennedd corfforol eu plant, i’w gyflwyno mewn cynhadledd yn Efrog Newydd


28.04.2023

Bydd Anna Stevenson, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ymuno ag arbenigwyr iechyd, addysg, hamdden a chwaraeon i hybu gwybodaeth a dulliau cymhwyso a gweithredu rhaglennu llythrennedd corfforol ar draws y byd, yng Nghynhadledd Ryngwladol Llythrennedd Corfforol (IPLC)  yn Efrog Newydd rhwng 2 a 5 Mai.

 

University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) lecturer Anna Stevenson will join health, education, recreation and sport experts to advance the knowledge, application and implementation of physical literacy programming across the globe, at the International Physical Literacy Conference (IPLC) in New York on May 2 to 5.

Mae’r gynhadledd yn denu arweinwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid ym maes llythrennedd corfforol o bob rhan o’r byd mewn amgylchedd gwirionedd gydweithredol. Llythrennedd corfforol yw’r cymhelliad, yr hyder, y cymhwysedd corfforol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i weld gwerth cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymryd cyfrifoldeb am hynny gydol oes.

Bydd Anna’n cyflwyno ei hymchwil ar ddatblygu a gwerthuso Footie Families, rhaglen sgiliau echddygol sy’n annog cyfranogiad gan y teulu cyfan. Darperir y rhaglen hon gan hyfforddwyr mewn cymunedau yng Nghymru, gan ddefnyddio pêl-droed fel cyfrwng i gael teuluoedd i gymryd rhan a chefnogi cymhwysedd echddygol ar gyfer plant 2 i 5 oed.

Yng Nghymru, mae lefelau ymddygiad eisteddog ymhlith pobl ifanc gyda’r gwaethaf ledled y byd – (Adroddiad Plant Egnïol Iach Cymru, 2018). Dim ond 9 y cant o fechgyn a 10 y cant o ferched 2 i 4 oed sy’n cyflawni’r lefelau gweithgarwch corfforol dyddiol a argymhellir. Mae cysylltiad rhwng y methiant hwn i gyrraedd canllawiau gweithgarwch corfforol a’r dirywiad pryderus yn sgiliau echddygol bras plant, a ystyrir yn flociau adeiladu ar gyfer symudiadau mwy datblygedig sydd eu hangen ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gydol oes.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi ffurfio partneriaeth ag Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Brifysgol, dan gyfarwyddyd Dr Nalda  Wainwright, i ddatblygu Footie Families – prosiect ymchwil a ariennir drwy raglen Ewropeaidd KESS.

Mae Footie Families yn rhaglen sgiliau echddygol sy’n annog cyfranogiad gan y teulu cyfan mewn lleoliadau cymunedol yng Nghymru, a'i nod yw gwella cymhwysedd echddygol plant cyn oed ysgol a dylanwadu ar arferion gweithgarwch corfforol teuluoedd.

Gwnaeth ymchwil Anna i’r rhaglen ddatgelu’r canlynol:

  • Esgorodd Footie Families ar welliannau mewn cymhwysedd echddygol plant.
  • Cafodd rhieni a phlant eu cymell i fod yn egnïol wrth gymryd rhan gyda’i gilydd.
  • Helpodd y rhaglen i gryfhau perthnasoedd o fewn y teulu.
  • Enillodd rhieni wybodaeth a syniadau i herio plant yn briodol.​
  • Gwnaeth bagiau offer annog teuluoedd i chwarae gyda’i gilydd ac i ailadrodd gweithgareddau o’r sesiynau yn y cartref.
  • Dywedodd rhieni fod Footie Families wedi cefnogi meysydd eraill o ddatblygiad plant (cymryd rhan a hyder).

Meddai Anna: “Mae symudiadau o safon mewn plentyndod cynnar yn gosod y sylfeini ar gyfer pob datblygiad diweddarach. Mae Plentyndod Cynnar yn gyfnod hudol ac yn gyfle i ddatblygu cymhwysedd corfforol sy’n cefnogi hyder a chymhelliant. Rwy mor falch i gael y cyfle hwn i rannu sut mae’r rhaglen Footie Families wir wedi denu teuluoedd i gymryd rhan a chefnogi datblygiad eu plant”.

Meddai Dr Nalda Wainwright, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn fod ymchwil doethurol Anna’n cael ei gydnabod yn yr IPLC yn Efrog Newydd.  Mae gwaith Anna yn rhan o gyfres gyfan o raglenni yr ydym wedi’u cyflwyno yn y Drindod Dewi Sant i fynd i’r afael â’r broblem o sgiliau corfforol gwael mewn plant ifanc. Os na wnawn ni weithredu i roi’r rhaglenni hyn ar waith i gefnogi hyfforddwyr, rhieni, a gweithwyr proffesiynol ym maes y blynyddoedd cynnar, ni fydd plant yn gallu dewis bywydau egnïol, iach. “

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071