“Ymdeimlad cartrefol, agos a theuluol y brifysgol” a ddenodd Heledd James i astudio yn y Drindod Dewi Sant


04.07.2023

Heddiw, mae Heledd James yn graddio gyda ‘BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd’ wedi iddi benderfynu astudio yn y Drindod Dewi Sant ar ôl ymweld â’r brifysgol ar ddiwrnod agored.

Heledd James  - Blynyddoedd Cynnar 2023

“Fe ges i’r ymdeimlad cartrefol, agos a teuluol sydd gan y brifysgol. Cefais i’r cyfle i gwrdd â rhai o fy narlithwyr (roeddent yn lyfli!) a roedd hyn wedi tawelu unrhyw bryderon oedd gen i. Mae’r brifysgol yn un cyfeillgar a glos sydd yn croesawu pawb mewn i’w teulu - yr ymdeimlad yma o gymuned sydd  yn ei wneud yn le arbennig i astudio.”

Roedd Heledd wedi mwynhau pob agwedd o’r cwrs gan ei bod wedi medru ei astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  

“Fe wnes i benderfynu astudio yn y Gymraeg gan fy mod i wedi derbyn fy addysg yn y Gymraeg trwy gydol fy mywyd a roeddwn i eisiau parhau gyda hyn. Mae yna amrywiaeth o manteision o astudio yn y Gymraeg, roeddwn i’n ffodus iawn fy mod i wedi derbyn prif ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan fy mod i wedi astudio yn y Gymraeg. Credaf wrth i ni astudio ein graddau yn y Gymraeg mae’n ei wneud ni’n unigryw - bu ni’n sefyll allan pan rydym yn ceisio am swyddi yn y dyfodol.”

Gwnaeth Heledd fwynhau’r amrywiaeth yr oedd y cwrs yn cynnig, o’r pynciau gwahanol a’r ffyrdd wahanol o asesu. Agwedd arall y gwnaeth Heledd fwynhau o’r cwrs oedd y gallu i’w herio mewn sawl ffordd a’i chynorthwyodd i gynhyrchu ei gwaith gorau.

Teimlodd fod y darlithwyr wedi bod yn gefnogol trwy gydol ei chyfnod fel myfyrwraig, ac mae’r cwrs wedi ei helpu i ddatblygu fel unigolyn. Ychwanegodd:

“Mae fy mhrofiadau i yn y brifysgol yn bendant wedi codi fy hyder yn gyffredinol, yn benodol mae profiadau megis bod yn llysgenad i’r brifysgol a trwy bod yn cynrychiolydd cwrs wedi helpu gyda hyn. Mae dod i’r brifysgol wedi fy ngalluogi i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol, dwi hefyd wedi cael y cyfle i datblygu fy sgiliau academaidd.

“Heddiw dwi’n berson hyderus a gwybodus yn fy mhwnc, mae fy hunan hyder wedi cryfhau - mae fy mhrofiad i yn y brifysgol yn bendant wedi cael effaith cadarnhaol ar fy natblygiad.”

Mae Heledd yn bwriadu parhau i weithio mewn ysgol gynradd wedi graddio, ac yn ychwanegol i hyn mi fydd yn dychwelyd i’r Drindod Dewi Sant fis Medi i astudio cwrs meistr rhan amser.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk